Neidio i'r prif gynnwys

Gwefan newydd - Rhwydwaith Ymchwil VAWDASV Cymru

Gwefan newydd – Rhwydwaith Ymchwil VAWDASV Cymru

Mae gwefan Rhwydwaith Ymchwil Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV), a ddatblygwyd gan y Rhwydwaith gyda chyllid gan Brifysgol De Cymru, bellach yn fyw!
 
Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth am y Rhwydwaith, gan gynnwys ei nodau, ei hegwyddorion arweiniol a’i haelod-sefydliadau, yn ogystal â dolenni i fframweithiau, polisïau a chanllawiau perthnasol ar VAWDASV.
 
Gall ymwelwyr hefyd ddarllen gwybodaeth am wasanaethau cymorth a chofrestru i ddod yn aelod o’r Rhwydwaith. 
 
Ewch i www.vawdasv.wales i archwilio’r wefan a rhannwch y wefan ymysg eich rhwydweithiau.