Hoffai Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru ddymuno Dydd Gŵyl Dewi Hapus iawn i chi.
Mae Dewi Sant, nawddsant Cymru, yn adnabyddus am y dyfyniad enwog ‘Gwnewch y pethau bychain”. Mewn cyfnod lle mae costau cynyddol yn effeithio ar yr holl ddarparwyr gwasanaeth efallai bod rhywbeth bach y gallech chi ei wneud i wneud eich cymuned ychydig yn fwy diogel?
Dyma rai awgrymiadau:
- Gwiriwch Eich Cymydog
- Cymerwch ran gyda Neighbourhood Watch
- Cydlynu sesiwn codi sbwriel- Gwanwyn Glân Cymru 2024 – Caru Cymru
- Cydlynu bws cerdded i neu o’r ysgol
- Gwirfoddoli gyda mudiad lleol – Volunteering Wales
- Gwneud rhodd gwaed – Gwasanaeth Gwaed Cymru
Os oes gennych chi ychydig funudau sbâr, pa ddiwrnod gwell na Dydd Gŵyl Dewi i wneud penderfyniad i wneud rhywbeth bach i wneud gwahaniaeth mawr!