Neidio i'r prif gynnwys

Mae Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel yn ôl am ail flwyddyn

Mae Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel yn ôl am ail flwyddyn yn olynol i ddathlu gwaith prosiectau, partneriaethau a phobl sydd wrthi’n gwneud cymunedau yn fwy diogel ar hyd a lled Cymru.

Heddiw mae Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru wedi cyhoeddi y bydd y gwobrau’n cael eu cynnal ddydd Iau 28 Tachwedd yng Nghlwb Bêl-droed Wrecsam, ac fe dderbynnir enwebiadau’n awr ar gyfer y gwobrau.

Fe fydd y gwobrau’n cael eu cyflwyno gan y cyflwynydd teledu, John-Paul Davies. Cyn ei yrfa ym maes newyddiaduraeth, treuliodd John-Paul bedair blynedd gyda’r Heddlu ac ef oedd y Swyddog Heddlu cyntaf o dde Cymru ers ugain mlynedd i ennill lle ar Gynllun Carlam y Swyddfa Gartref ar gyfer Graddedigion.

Mae’r Seremoni Wobrwyo yn gyfle i ddathlu ac arddangos y gwaith gwych sydd ar y gweill ar hyd a lled Cymru i atal, lleihau a gwneud cymunedau’n fwy diogel mewn categorïau fel Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trais yn Erbyn Merched a Genethod a Chaethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio.

Dylai unrhyw un sy’n dymuno enwebu partneriaeth, tîm neu brosiect y maen nhw neu gydweithiwr wedi bod yn rhan ohono wneud hynny erbyn dydd Gwener 11 Hydref er mwyn cael eu hystyried.  Mae manylion ynghylch sut i enwebu ar gael ar wefan Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel.

Meddai Mark Brace, Pennaeth Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru:

“Yn dilyn llwyddiant y gwobrau cyntaf rydym ni wrth ein boddau ein bod bellach yn derbyn enwebiadau ar gyfer ail flwyddyn Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel.

“Mae’r rhaglen Wobrwyo hon yn rhoi llwyfan i arddangos yr amrywiaeth o waith gwych sy’n digwydd ar hyd a lled Cymru ac mae’n bleser i’r Rhwydwaith allu dod â chydweithwyr ynghyd i ddathlu’r unigolion a’r meddwl arloesol sy’n gwneud i newid ddigwydd.”

Caiff y Rhwydwaith ei oruchwylio gan Fwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru, sydd â’r nod o sicrhau y darperir arweinyddiaeth effeithiol ar y cyd i helpu partneriaethau lleol sy’n hyrwyddo cymunedau diogel, cryf a hyderus.

I gael rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith, ewch i www.cymunedaumwydiogel.cymru a dilynwch @CymMwyDiogel  ar X (yr hen Twitter) i gael y wybodaeth ddiweddaraf.