Neidio i'r prif gynnwys

Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Mwy Diogel 2024 – Edrych ymlaen

Yr wythnos ddiwethaf, roedd hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Mwy Diogel 2024 a chymerodd y Rhwydwaith ran mewn nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau. Gallwch ddarllen mwy am weithgareddau’r Rhwydwaith yma. Cofiwch roi Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Mwy Diogel 2025 yn eich dyddiaduron, fe’i cynhelir rhwng 15 – 19 Medi.

Pecyn Hyfforddi Cymunedau Mwy Diogel

Mae’r Rhwydwaith yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe fel rhan o bartneriaeth barhaus i ddatblygu rhaglen hyfforddi Cymunedau Mwy Diogel. Hoffem glywed eich barn, felly  llenwch ein harolwg.

Rydym hefyd yn cynnal Ymarfer Mapio Diogelwch Cymunedol i sicrhau ein bod yn gallu cyfeirio, defnyddio a deall y bylchau’n well. Gallwch ein helpu drwy rannu dolenni at hyfforddiant neu becynnau dysgu presennol sy’n berthnasol i Ddiogelwch Cymunedol, boed y rheiny ar gyfer defnydd mewnol neu gyhoeddus. Neu gallwch rannu enw a manylion cyswllt yr unigolyn perthnasol yn eich sefydliad y gallwn gael sgwrs â nhw am yr hyfforddiant. Cysylltwch â ni os gallwch helpu.

Felly beth sydd nesaf?

Mae diogelwch cymunedol yn symud yn barhaus, felly dyma grynodeb o rai o’r pethau sydd i ddod dros y misoedd nesaf. 

Hydref

  • 1 Hydref –  Bydd y canllawiau ar yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (SUSR) yn dod i rym. 
  • Bydd y ceisiadau ar gyfer y Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel yn cau ddydd Gwener 11 Hydref am 5pm. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cyflwyno eich ceisiadau cyn hynny. Ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth.
  • Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal Cynhadledd Gwrth-gaethwasiaeth Cymru eleni, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Mae hyfforddiant Gwrth-gaethwasiaeth yn cael ei ddatblygu hefyd, a byddwn yn ei rannu â chi pan fydd yn cael ei lansio. 
  • Bydd Rhwydwaith Ymarferwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Cymru Gyfan yn cynnal ei chynhadledd flynyddol yn Llandrindod ar 23 Hydref. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynd, cysylltwch â ni.

Tachwedd

Fel arfer, byddwn hefyd yn cyflwyno ein newyddlen Briff, sy’n cynnwys gwybodaeth am ddiogelwch cymunedol o bob cwr o Gymru a’r DU.  Os hoffech gael eich ychwanegu at y rhestr bostio, neu os oes gennych unrhyw beth yr hoffech i ni ei gynnwys, anfonwch e-bost atom.  

Rydym yma bob amser i helpu i wneud bywyd yn haws i ymarferwyr ac rydym yn croesawu adborth. Dywedwch wrthym os oes unrhyw beth y gallem ei wneud fyddai’n ddefnyddiol i chi.