Mae Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru wedi cyhoeddi ei gynllun strategol newydd ar gyfer 2025-2030, ‘Gwneud Cymru’n Fwy Diogel Gyda’n Gilydd’. Mae’r cynllun, sy’n pennu cydweledigaeth glir ar gyfer gwneud cymunedau ledled Cymru’n fwy diogel, yn ganlyniad ymgysylltiad a myfyrdod helaeth, ac mae’n nodi cam arwyddocaol ymlaen wrth fynegi diben, gwerthoedd a blaenoriaethau’r Rhwydwaith.
Yn y bôn, galwad i weithredu yw’r cynllun strategol. Mae’n gwahodd ymarferwyr, partneriaid a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i weld bod y Rhwydwaith yn fwy nag adnodd yn unig, a’i fod yn llwyfan ar gyfer llunio dyfodol diogelwch cymunedol yng Nghymru. Mae’n amlinellu sut mae’r Rhwydwaith yn cefnogi ymarferwyr – drwy eu cysylltu â’u cyfoedion, codi eu lleisiau, a chynnig fframwaith ar y cyd i weithredu. Mae hefyd yn amlygu effaith seiliedig ar dystiolaeth gwaith y Rhwydwaith a sut mae’n cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol.
Mae’r cynllun yn nodi sut mae Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru yn gweithio i gefnogi ymarferwyr ledled Cymru, gan egluro swyddogaeth y Rhwydwaith fel llwyfan ar gyfer cydweithio. Mae’r Rhwydwaith yn dod â gweithwyr proffesiynol o’r heddlu, y gwasanaethau tân, llywodraethau lleol a chenedlaethol, a sefydliadau cymunedol ynghyd i rannu gwersi, llunio blaenoriaethau, a chryfhau darpariaeth. Mae’r cynllun yn amlinellu cenhadaeth, gwerthoedd a chyfeiriad strategol y Rhwydwaith, gan helpu ymarferwyr i ddeall sut gallant ymgysylltu â’r Rhwydwaith, cael gafael ar gymorth, a chyfrannu at lunio cymunedau mwy diogel. Mae wedi’i ddylunio i fod yn adnodd ymarferol sy’n atgyfnerthu gwerth partneriaeth ac yn cynnig fframwaith ar y cyd i weithredu.
Gobaith y Rhwydwaith yw y bydd y cynllun hwn yn gwella dealltwriaeth o’i swyddogaeth ac yn annog ymgysylltiad ehangach. P’un a ydych chi’n llunio polisïau, yn ymarferwr rheng flaen, neu’n arweinydd strategol, mae’r cynllun strategol hwn yn gyfle i chi gysylltu, cyfrannu a helpu datblygu Cymru fwy diogel.