Ddydd Iau 11 Mehefin, cyflwynodd Pat Davey, Rheolwr Cynnwys a Deunyddiau yn SAFE, rhan o’r Ymddiriedolaeth Diogelwch Cymunedol (CST), seminar yn archwilio pwrpas Deddf Martyn a’r canllawiau statudol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n anelu at gryfhau parodrwydd ar gyfer digwyddiadau terfysgol. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno “person cyfrifol” a dull haenog yn seiliedig ar faint a natur y safle.
Archwiliodd y seminar beth yw Deddf Martyn a pham ei bod hi’n bwysig i ymarferwyr Diogelwch Cymunedol. Clywodd y mynychwyr sut y disgwylir i’r rhan fwyaf o sefydliadau, yn enwedig y rhai yn yr haen safonol, ganolbwyntio ar fesurau cymesur fel gwagio, cloi, a chynllunio cyfathrebu, ochr yn ochr â chodi ymwybyddiaeth ymhlith staff a gwirfoddolwyr.
Tynnodd y sesiwn sylw hefyd at bwysigrwydd paratoi’n gynnar, cydweithio â phartneriaid, a defnyddio canllawiau ac adnoddau hyfforddi presennol i gefnogi parodrwydd cyn gweithredu.
Mae’r recordiad isod.
Recordiad o’r Seminar
Deddfwriaeth a Chanllawiau Allweddol
Mae amrywiaeth o ddeddfwriaeth swyddogol, canllawiau statudol ac adnoddau ategol ar gael i gefnogi sefydliadau i ddeall a pharatoi ar gyfer Deddf Martyn (Deddf Terfysgaeth (Diogelu Mangreoedd) 2025).