Mae Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 wedi gwneud Priodas Dan Orfod yn drosedd benodol dan a121.
Mae Gorchymyn Amddiffyn Rhag Priodas Dan Orfod yn ddatrysiad sifil a gyhoeddir dan Ddeddf Priodas Dan Orfod (Amddiffyn Sifil) 2007. Mae’n cynnig amddiffyniad i ddioddefwr rhag pob seremoni sifil neu grefyddol, trwy wahardd yr atebwr/atebwyr eu hunain, neu trwy annog neu gytuno ag unrhyw unigolyn, rhag llunio unrhyw gytundebau o ran dyweddïo neu briodi. Gallai Gorchymyn Amddiffyn gynnwys gwaharddiadau, cyfyngiadau neu ofynion ac unrhyw delerau eraill o’r fath y bydd y llys yn ystyried sy’n briodol at ddibenion y gorchymyn. Gall cais am Orchymyn Amddiffyn gael ei wneud gan ddioddefwr, unigolyn sy’n cael caniatâd y llys i wneud cais am orchymyn ar ran y dioddefwr, trydydd parti perthnasol neu gan y llys o’i wirfodd.” (Gwasanaeth Erlyn y Goron)
Mae torri Gorchymyn Amddiffyn Rhag Priodas Dan Orfod yn drosedd dan a120 Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.
Mae Deddf Plismona a Throsedd 2017 (adran 173) yn sicrhau bod dioddefwyr Priodas Dan Orfod yn aros yn ddienw am oes.
Ar hyn o bryd, nid oes deddfwriaeth benodol o ran Trais ar Sail Anrhydedd. Caiff pob gweithred droseddol ei thrin dan y ddeddfwriaeth trais berthnasol. Fodd bynnag, caiff ei nodi fel un o’r mathau o drais ar sail rhywedd dan Ddeddf Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.