Mae Deddf Troseddau Rhyw 2003 yn nodi ei bod yn drosedd os bydd unigolyn (A):
(a)yn treiddio fagina, anws neu geg unigolyn arall (B) yn fwriadol gyda’i bidyn,
(b)nid yw B yn cydsynio i’r treiddiad, a
(c)nid yw A yn credu’n rhesymol bod B yn cydsynio.
Mae p’un a yw cred yn rhesymol i gael ei benderfynu gan ystyried yr holl amgylchiadau, gan gynnwys unrhyw gamau mae A wedi’u cymryd i ganfod a yw B yn cydsynio.
Mae’r ddeddfwriaeth yn glir, Mae unigolyn sy’n euog o drosedd dan yr adran hon yn agored, ar gollfarn trwy dditiad, i gael ei garcharu am oes.
Mae’r ddeddfwriaeth lawn ar gael yn.
Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 Mae’r Ddeddf hon yn wahanol i’r dull a gymerir wrth ddiffinio “unigolion cysylltiedig” yn adran 58(2)(h) Deddf Tai (Cymru) 2014 ac adran 62(3)(a) Deddf Cyfraith Teulu 1996 (fel a osodwyd gan adran 4 Deddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004). Yn y Deddfau hynny, mae’n rhaid i’r berthynas bersonol agos fod o “hyd sylweddol”. Nid yw hynny’n wir dan y Ddeddf hon. Mae Adran 24(2)(h) yn nodi perthnasoedd personol agos o unrhyw hyd, er mwyn adlewyrchu’r ffaith y gall camdriniaeth fod yn bresennol ar gamau cynnar iawn perthynas bersonol agos. Gall perthynas bersonol agos fodoli p’un a yw’r unigolion o’r un rhyw, neu o’r naill ryw a’r llall.
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: mae’n darparu fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwella lles pobl sydd angen gofal a chymorth. Bydd hyn yn cynnwys rhai sy’n profi VAWDASV. Mae hefyd yn cynnwys deddfwriaeth ddiogelu.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn amlinellu rôl gyfun y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Gellir cyflawni dyletswyddau statudol trwy Gynllun Lles, a all gynnwys VAWDASV. Gall Strategaeth VAWDASV gyflawni’r Ddyletswydd Statudol a chyfrannu at ddatblygiad y Cynllun Lles lleol.