- Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015: ynghyd â dyletswyddau o ran strategaethau, mae’r Ddeddf yn rhoi mesurau ar waith i leihau trais ar sail rhywedd yng Nghymru a’i nod yw codi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig a gosod mesurau ataliol fel bod modd i weithwyr proffesiynol adnabod arwyddion camdriniaeth a thrais.
- Darparodd Llywodraeth Cymru ganllawiau i ddarparwyr llety i oroeswyr VAWDASV yn ystod COVID-19.
- Deddf Cam-Drin Domestig 2021: Ni fydd camdrinwyr yn cael mewn rhai amgylchiadau, croesholi dioddefwyr yn uniongyrchol mewn llysoedd teulu a sifil, yn ogystal â Mesurau Arbennig fel darparu sgriniau a gallu rhoi tystiolaeth drwy gyswllt fideo i atal dychryn a lleddfu rhywfaint o’r straen sy’n gysylltiedig â’r broses. Mae’n egluro’r amgylchiadau ble mae llys yn gallu gwneud ‘gorchymyn eithrio’ o dan adran 91(14) o’r Ddeddf Plant 1989, i atal cynbartneriaid ymosodol rhag mynd â’r dioddefwr yn ôl i’r llys dro ar ôl tro, a all fod yn barhad o gamdriniaeth. Cyflwyno trosedd newydd o dagu nad yw’n angheuol, cosbadwy gyda hyd at bum mlynedd yn y carchar. Mae amddiffyn cydsyniad i niwed difrifol am foddhad rhywiol yn cael ei ddileu ar unwaith. Bygythiad i ddatgelu lluniau a ffilmiau rhyw gyda’r bwriad i achosi gofid nawr wedi’i ychwanegu i’r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015. Mae’n atal meddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill rhag codi tâl ar ddioddefwr cam-drin domestig am lythyr i gefnogi cais am gymorth cyfreithiol.
- Cynllun datgelu Trais Domestig: canllawiau (2012) ‘Clare’s Law’: Mae Clare’s Law yn galluogi pobl i ofyn i’r heddlu gynnal gwiriadau am gofnod o droseddau camdriniol ar eu partner neu bartner aelod o’u teulu neu ffrind maen nhw’n credu allai fod mewn perygl. Mae’r Ddeddf Cam-Drin Ddomestig 2021 yn gosod Cynllun Datgelu Trais Domestig ‘Cyfraith Clare’ ar sail statudol.
- Deddf Troseddu Difrifol 2015: Mae Rhan 5 o’r Ddeddf yn diffinio ac estyn cwmpas troseddau cam-drin domestig yn ogystal â diweddaru’r gyfraith o ran FGM.
- Gwnaeth Deddf Cyfraith Teulu 1996 (fel y’i diwygiwyd gan Ran 1 o Ddeddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004) gyflwyno dau fath o orchymyn. Gorchmynion Meddiannaeth, sy’n caniatáu i lys wahardd camdriniwr o’r cartref dros dro. Mae gorchmynion peidio ag ymyrryd yn orchymyn llys sy’n gwahardd camdriniwr rhag bod yn dreisgar, aflonyddu ar unigolyn arall neu ddangos ymddygiad bygythiol tuag atynt.
- Mae Deddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997 yn darparu datrysiadau sifil a throseddol i gam-drin domestig, gan gynnwys gorchmynion peidio ag aflonyddu a gorchmynion atal.
- Mae Deddf Tai (Cymru) 2014, Adran 55, yn amlinellu pan fydd unigolyn yn ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd. Mae Adran 57 yn darparu’n benodol nad yw’n rhesymol i unigolyn feddiannu llety os yw’n debygol y bydd hyn yn arwain at fod yr unigolyn, neu aelod o aelwyd yr unigolyn, yn destun camdriniaeth. At ddibenion adran 57, mae “camdriniaeth” yn golygu trais corfforol, ymddygiad bygythiol neu frawychus ac unrhyw fath arall o gamdriniaeth a all arwain at berygl o niwed, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Mae “cam-drin domestig” yn digwydd pan fo’r dioddefwr yn gysylltiedig â’r camdriniwr (adran 58). Mae adran 68 yn darparu bod rhaid i awdurdodau lleol ddarparu llety dros dro os ydynt yn credu y gallai ymgeisydd fod yn ddigartref, yn gymwys am gymorth a bod angen blaenoriaethol arnynt – mae hyn yn cynnwys llochesau.
Dim ond y dioddefwr all wneud cais am orchmynion peidio ag ymyrryd a gorchmynion meddiannaeth a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 a dim ond y llys fedr eu cyflwyno.