Rhwydwaith Ymarferwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Cadeirir y Rhwydwaith Ymarferwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol gan ymarferwr o Torfaen Mwy Diogel, ac mae cysylltiad uniongyrchol rhwng y rhwydwaith a blaenoriaeth 4 ar gyfer y Bwrdd. Mae’n cyfarfod ddwy neu dair gwaith y flwyddyn ac mae ar agor i Ymarferwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol o Awdurdodau Lleol, yr Heddlu, Tai, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a’r Trydydd Sector.
Cylch Gorchwyl ar gyfer Rhwydwaith Ymarferwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (Saesneg yn unig)
Rhwydwaith Gwella Data a Dadansoddi Arloesol Cymru (WDAIIN)
Cadeirir WDAIIN gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys, ac mae cyswllt uniongyrchol rhwng y rhwydwaith a blaenoriaeth 3 ar gyfer y Bwrdd. Mae’n cyfarfod yn chwarterol ac ar agor i unrhyw un sydd â diddordeb mewn Dadansoddi Data a gwella prosesau rhannu a defnyddio data’n gyson ar draws Cymru.
Pwrpas WDAIIN yw darparu arweinyddiaeth, goruchwyliaeth a chyfarwyddiaeth rhwng bob partner mewn perthynas â dadansoddi data. Darparu goruchwyliaeth er mwyn galluogi arloesedd a gwelliant a gefnogir gan ddata a gwaith dadansoddol ar draws Cymru gyfan, darparu cefnogaeth i waith partneriaeth lleol a fydd yn cefnogi cymunedau diogel, cryf a mwy hyderus.
Cylch Gorchwyl WDAIIN (Saesneg yn unig)
Cymdeithas Swyddogion Diogelwch Cymunedol Cymru (WASCO)
Mae WACSO yn cynnwys Swyddogion Diogelwch Cymunedol o’r 22 Awdurdod Lleol ar draws Cymru. Y Rheolwr Diogelwch Cymunedol o Gyngor Gaerdydd, sy’n aelod o Fwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru, yw’r Cadeirydd ar hyn o bryd.
Cylch Gorchwyl WACSO (Saesneg yn unig)