Neidio i'r prif gynnwys

Hyb ACE Cymru: Adnabod Llwybrau Menywod at Droseddu a’r Cyfleoedd Atal Sylfaenol ac Ymyrraeth Gynnar i Fenywod Mewn Perygl o Droseddu yng Nghymru.

Hyb ACE Cymru: Adnabod Llwybrau Menywod at Droseddu a’r Cyfleoedd Atal Sylfaenol ac Ymyrraeth Gynnar i Fenywod Mewn Perygl o Droseddu yng Nghymru.

Mae’n bleser gan Hyb ACE Cymru rannu ein hadroddiad newydd gyda chi, Adnabod Llwybrau Menywod at Droseddu a’r Cyfleoedd Atal Sylfaenol ac Ymyrraeth Gynnar i Fenywod Mewn Perygl o Droseddu yng Nghymru.

Nod y prosiect hwn oedd nodi’r ffactorau allweddol sy’n dylanwadu ar lwybrau menywod i droseddu a’r cyfleoedd atal sylfaenol ac ymyrraeth gynnar i leihau’r risg y bydd menywod yn dod i gysylltiad â’r system Cyfiawnder Troseddol. Mae’r ffactorau allweddol a nodwyd yn cynnwys: tlodi a dyled, Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE), salwch meddwl a defnyddio sylweddau, cam-drin domestig a thrais rhywiol, anaf i’r ymennydd, niwroamrywiaeth a gwahaniaethu ar sail hil a/neu ar sail ethnigrwydd. Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu cyfleoedd atal sylfaenol ac ymyrraeth gynnar posibl a dulliau o fynd i’r afael â’r ffactorau risg a nodir. Mae pedair astudiaeth achos yn amlygu profiadau menywod a oedd wedi troseddu yng Nghymru ac wedi cael eu dargyfeirio i ffwrdd o’r system Cyfiawnder Troseddol i gael cymorth.

Bydd canfyddiadau’r astudiaeth hon yn llywio gwelliannau i bolisi ac arfer a allai atal menywod rhag mynd i mewn i’r system Cyfiawnder Troseddol. Mae’r adroddiad yn cefnogi ffrwd waith ymyrraeth gynnar ac atal sylfaenol y Glasbrint Cyfiawnder i Fenywod yn benodol, sy’n ceisio dargyfeirio menywod i ffwrdd o’r system Cyfiawnder Troseddol cyn gynted â phosibl.

Ar gyfer yr adroddiad yn Gymraeg: Pathways-to-Offending-reports-Cym-final.pdf (hybacecymru.com)

Ar gyfer yr adroddiad yn Saesneg: Pathways-to-Offending-reports-E-final.pdf (acehubwales.com)