Lywodraeth Cymru Grant darparu cyllid i alluogi arloesi a chydweithio rhwng sectorau a/neu bartneriaethau rhanbarthol ar fater tlodi plant
Mae mynd i’r afael â thlodi plant yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ond mae llawer o’r mecanweithiau ar gyfer newid yn nwylo Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae camau y gellir eu cymryd yng Nghymru i wella bywydau bob dydd a chanlyniadau i blant a phobl ifanc sy’n byw mewn tlodi. Rydym am i bob plentyn a pherson ifanc, waeth beth yw’r incwm teuluol, allu gwireddu eu hawliau.
Gwyddom fod angen inni gynllunio sut i wneud hyn ar gyfer pobl sy’n wynebu rhwystrau ychwanegol o ganlyniad i wahaniaethu, gan gynnwys gwahaniaethu ar sail rhywedd, anabledd, ethnigrwydd neu rywioldeb.
Cronfa’r Grant Arloesi a Chefnogi Cymunedau
Datblygwyd y grant tymor byr hwn i ddarparu cyllid i alluogi arloesi a chydweithio rhwng sectorau a/neu bartneriaethau rhanbarthol ar fater tlodi plant. Mae’r grant ar gael i gefnogi sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector (sy’n cynnwys grwpiau ffydd) yn eu hymdrechion i gyflawni’r canlynol:
- Gwella gallu sefydliadau i ffurfio trefniadau cydweithio i fynd i’r afael â thlodi plant, sy’n gysylltiedig ag un neu fwy o 5 amcan y Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2024 | LLYW. CYMRU
- Cefnogi sefydliadau sy’n gweithio gyda’i gilydd i gyfathrebu’n effeithiol, cydweithio a throsglwyddo gwybodaeth wrth ymateb i dlodi plant ar lefel ranbarthol, lleol neu gymunedol.
Dylid dangos sut y bydd plant, pobl ifanc a theuluoedd mewn tlodi yn elwa o’r trefniant cydweithio ychwanegol hwn a ariennir gan grant yn y tymor hwy.
Y cyfanswm sydd ar gael i’w ddosbarthu o dan y gronfa grant hon yw £900,000. Bydd yr arian grant yn cael ei rannu’n dair cronfa gwahanol:
- Lefel gymunedol – hyd at £5,000 ar gael i bob cais llwyddiannus
- Lefel leol – hyd at £25,000 ar gael i bob cais llwyddiannus
- Lefel ranbarthol – hyd at £100,000 ar gael i bob cais llwyddiannus
Darllenwch y Nodyn Cyfarwyddyd ar gyfer gwneud Cais am Grant sydd wedi’i atodi.
Os ydych chi’n gymwys ac â diddordeb mewn gwneud cais am gyllid i alluogi arloesi a chydweithio rhwng sectorau a/neu bartneriaethau rhanbarthol ar fater tlodi plant cwblhewch y ffurflen gais atodedig.
Dylid anfon ffurflenni cais wedi’u cwblhau drwy e-bost i: GrantArloesiTlodiPlantAChefnogiCymunedau@llyw.cymru
Amserlen a gwybodaeth bellach
- 14 Mehefin 2024: y cyfnod ymgeisio am grant yn agor.
- 14 Gorffennaf 2024: y cyfnod ymgeisio am grant yn cau.
- Wythnos yn dechrau 12 Awst 2024: anfon llythyr at yr ymgeiswyr ynghylch y canlyniad
- Wythnos yn dechrau 19 Awst 2024: anfon y llythyrau dyfarnu grant