Neidio i'r prif gynnwys

Cynhadledd Rhwydwaith Ymarferwyr ASB Cymru Gyfan 2023

Cynhadledd Rhwydwaith Ymarferwyr ASB Cymru Gyfan 2023

Roeddem yn falch o allu cefnogi Cynhadledd Rhwydwaith Ymarferwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Cymru Gyfan 2023 ddoe (06/07/2023) yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth ASB.

Roedd yn wych gweld cymaint o bartneriaid yn bresennol o Lywodraeth Leol, Plismona, Tân ac Achub, y Trydydd Sector a Llywodraeth Cymru.

Cafwyd anerchiad croeso gan Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, a chafwyd cyflwyniadau gan Lywodraeth Cymru, ASB Help, a Shelter Cymru.

Yn ystod y dydd, archwiliodd cyflwynwyr a gweithdai: Ymddygiad pobl ifanc, ABCs a Gwaharddebau; ASB Oedolion; Rhannu arfer gorau; Bylchau mewn darpariaeth gwasanaeth – beth allwn ni ei wneud i’w pontio?