Neidio i'r prif gynnwys

Dull Sy’n Cael ei Lywio Gan Ddata i Greu Cymunedau Mwy Diogel

Cynhadledd WDAIIN – Dull Sy’n Cael ei Lywio Gan Ddata i Greu Cymunedau Mwy Diogel

Yr wythnos diwethaf, ddydd Mercher 08 Mawrth 2023, roedd Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru yn falch o gefnogi cynhadledd Rhwydwaith Gwella Data a Dadansoddi Arloesol Cymru (WDAIIN), Dull Sy’n Cael ei Lywio Gan Ddata i Greu Cymunedau Mwy Diogel, yng Ngwesty’r Future Inn, Caerdydd.

Daeth y gynhadledd ag ymarferwyr data ledled Cymru ynghyd er mwyn myfyrio ar y ffordd yr ydym yn defnyddio gwybodaeth a sut y gallwn symud ymlaen gyda’n gilydd yn arloesol.

Er gwaethaf y tywydd garw, roeddem yn falch o groesawu 70 o gynrychiolwyr o 27 o sefydliadau o bob rhan o Gymru i’r gynhadledd. Roedd cynrychiolwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Plismona yng Nghymru, Tân ac Achub, Iechyd, y Gwasanaeth Prawf, y Trydydd Sector, Prifysgolion, a Senedd Cymru.

Agorwyd y gynhadledd gan Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys, a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys.

Yn ystod y gynhadledd, buom yn ffodus i dderbyn nifer o gyflwyniadau, gan gynnwys:

  • Pyrth Rhannu Data, Anna Bartlett Avery, Llywodraeth Cymru. Archwiliodd Anna’r Porth Rhannu Data, gan helpu cynrychiolwyr i archwilio’r clytwaith cymhleth o ddeddfwriaeth, cytundebau a phwerau sydd ar gael. Edrychodd y cyflwyniad ar Bwerau Deddf yr Economi Ddigidol, yr Amcanion Cyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus, pwerau sydd ar gael i osod amcanion newydd a beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol, yn ogystal â throsolwg o Gytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) a dolenni defnyddiol a manylion cyswllt.
  • Canlyniadau gwell drwy Ddata Cysylltiedig  (BOLD), Michael Curties, Llywodraeth Cymru; Josie Smith a Columbus Ohaeri, Iechyd Cyhoeddus Cymru. Gan gydnabod pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth a’r cyfleoedd a gynigir pan fydd data a gwybodaeth yn cael eu rhannu’n fwy effeithiol, cyflwynodd Michael y Rhaglen Trawsadrannol, a ariennir gan y Swyddfa Gartref, Gwell Trwy Ddata Cysylltiedig (BOLD). Helpodd Josie a Columbus y cynadleddwyr i gydnabod y cyfleoedd presennol, tra hefyd yn deall y posibiliadau gydag ymgysylltu pellach. Mae’r cyflwyniad yn amlinellu’r Peilot Camddefnyddio Sylweddau yng Nghymru ac rydym yn obeithiol yn dilyn trafodaethau yn y digwyddiad hwn y bydd setiau data pellach ar gael.
  • Defnyddio data amlasiantaeth er mwyn atal trais – Cyflwyno Uned Atal Trais Cymru, Lara Snowdon a Emma Barton, Iechyd Cyhoeddus Cymru/Uned Atal Trais. Rhoddodd Lara ac Emma gyflwyniad pwerus yn archwilio sut y bydd rhannu a dadansoddi data aml-asiantaeth yn cael ei ddefnyddio ar gyfer atal trais yng Nghymru. Mae lansio llwyfan rhannu data aml-asiantaeth, Porth Atal Trais Cymru, yn offeryn rhyngweithiol sy’n galluogi defnyddwyr i echdynnu a dadansoddi ystod o ddata gweinyddol gwyliadwriaeth trais. Eglurwyd hefyd y fframwaith ar gyfer atal trais ymhlith plant a phobl ifanc, a pha gymorth sydd ar gael gan yr Uned Atal Trais i helpu i lywio’r Ddyletswydd Trais Difrifol.
  • Rhaglen Mynd i’r Afael â Chamfanteisio Cyfundrefnol (TOEX), Lee Allen, TOEX. Esboniodd cyflwyniad Lee pwy yw TOEX a beth maen nhw’n ei wneud. Mae’r rhaglen hynod ddiddorol hon sy’n torri tir newydd yn defnyddio setiau data i gasglu gwybodaeth a manylion mewn ffordd nad oedd yn hysbys cyn hynny. Clywodd y cynadleddwyr sut mae TOEX yn parhau i dyfu eu setiau data trwy gydweithio ac roeddent yn rhagweithiol wrth chwilio am gyfleoedd trwy gydol y gynhadledd.

*Os hoffech weld unrhyw rai o’r cyflwyniadau o’r gynhadledd, anfonwch e-bost atom cymunedaumwydiogel@wlga.gov.uk.

Camau nesaf

Bydd WDAIIN yn cynnal seminar rhithwir wedi’i anelu at Uwch Arweinwyr ym mis Hydref. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu’r seminar hon, neu ddod yn aelod o WDAIIN, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost atom cymunedaumwydiogel@wlga.gov.uk.