Neidio i'r prif gynnwys

Golwg ar Bartner: Ei Llais Cymru

Ei Llais Cymru

Darn gan: Michaela O’Neill, Gweithiwr Prosiect Llysgenhadon Hawliau, Safonau a Darpariaeth, Cyngor Bro Morgannwg

Rydw i’n gweithio i Wasanaeth Ieuenctid Bro Morgannwg a dros y flwyddyn ddiwethaf, rydw i wedi bod yn cefnogi Ei Llais Cymru a’u hymgyrch #WEDONTFEELSAFE.

Mae Ei Llais Cymru’n brosiect sy’n cael ei hwyluso gan Wasanaeth Ieuenctid y Fro a’i nod yw cefnogi pobl ifanc i feithrin y sgiliau a’r hyder i fod yn hyrwyddwyr cydraddoldeb yn eu cymunedau eu hunain, gan eu galluogi i newid meddyliau ac agweddau ynghylch merched fel y gall merched fyw heb anghydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae aelodau Ei Llais Cymru’n griw o ferched ifanc rhwng 11 a 18 oed o bob cwr o’r Fro.

Roedd aelodau Ei Llais Cymru’n teimlo’n awyddus iawn i wneud Bro Morgannwg yn lle mwy diogel i bobl ifanc, a dyna wnaeth eu harwain i greu’r ymgyrch #WEDONTFEELSAFE. Y nod oedd darganfod pa mor ddiogel mae pobl ifanc eraill yn teimlo a datblygu gwell dealltwriaeth o’r ffordd o fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol a diogelwch ar y stryd. I wneud hynny, lluniodd aelodau Ei Llais Cymru arolwg a gafodd 129 o ymatebion gan wahanol bobl yn y gymuned.

Gwelodd aelodau Ei Llais Cymru bod tair prif thema yn eu canfyddiadau:

  1. Aflonyddu rhywiol a’r gweithdrefnau riportio
  2. Golau stryd a chamerâu teledu cylch caeedig
  3. Cludiant cyhoeddus

Fe wnaeth aelodau Ei Llais Cymru fynd i’r afael â’r dasg o godi ymwybyddiaeth am y canlyniadau a hyrwyddo eu hargymhellion, oedd yn cynnwys:

  • Gwell golau stryd a chamerâu teledu cylch caeedig
  • Gweithredu cynllun lleoedd diogel ar draws Bro Morgannwg
  • Hyrwyddo mwy o bresenoldeb gan yr Heddlu
  • Codi ymwybyddiaeth am broses riportio aflonyddu rhywiol

Fe wnaeth aelodau Ei Llais Cymru greu poster llawn gwybodaeth ar gyfer pobl ifanc i roi gwybod i eraill beth yw aflonyddu rhywiol, y gweithdrefnau riportio a beth sy’n digwydd nesaf, a rhannwyd hwn ar hyd a lled y Fro a thu hwnt. Maent wedi bod mewn sawl digwyddiad i gyflwyno’r ymgyrch, yn ogystal â sicrhau bod rhai sy’n gwneud penderfyniadau allweddol yn clywed eu hargymhellion. Mae’r aelodau wedi trefnu teithiau cerdded diogelwch cymunedol gydag aelodau lleol o’r Cyngor i dynnu sylw at ardaloedd lle nad ydynt yn teimlo’n ddiogel. Mae’r aelodau wedi gweithio gyda Phartneriaeth Bro Ddiogelach i hyrwyddo gweithredu’r Cynllun Lleoedd Diogel o fewn y Fro. Mae’r aelodau wedi bod yn annog y cynllun hwn ers y cychwyn cyntaf ac maent wedi bod yn llwyddiannus. Mae bellach yn cael ei dreialu dros y Fro.

Dim ond cipolwg byr o’r daith Ei Llais Cymru yw hon. Maen nhw wir yn ysbrydoliaeth i bawb, ac yn ymroi i weithredu newid i wneud ein cymuned yn lle mwy diogel.