Neidio i'r prif gynnwys

Enwebiadau bellach wedi cau! Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel 2023

Enwebiadau bellach wedi cau! Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel 2023

Beth: Gwobrau Agoriadol Cymunedau Mwy Diogel Cymru 2023

Pryd: Dydd Iau 30 Tachwedd 2023, 14:00-17:00

Ble: Village Hotel Abertawe, SA1 8QY

Ledled Cymru, mae Partneriaethau Diogelwch Cymunedol a phartneriaid eraill yn gweithio’n unigol a gyda’i gilydd fel bod pawb yng Nghymru yn teimlo’n ddiogel ac yn rhydd rhag ofn camfanteisio, trosedd ac anhrefn. Mae’r gwaith hwn yn aml yn cael ei wneud yn dawel a chan nifer fach o bobl sy’n frwd dros wneud gwahaniaeth i unigolion, teuluoedd a chymunedau.

Mae Gwobrau Agoriadol Cymunedau Mwy Diogel Cymru 2023 yn cael ei chynnal i gydnabod cyfraniadau eithriadol i ddiogelwch cymunedol mewn cyd-destun aml-asiantaeth. Bydd digwyddiad y prynhawn yn un i ddathlu, ac yn cydnabod y rhai sydd wedi cael effaith wirioneddol ar fywydau pobl dros y flwyddyn.

Yn ogystal â chydnabod ymdrechion unigolion a phrosiectau a phartneriaethau cydweithredol, bydd hefyd yn rhoi sylw i ddyfarnwyr, cydweithwyr a gweithwyr proffesiynol diogelwch cymunedol ehangach, yn yr ystyr bod eu gwaith caled yn cael ei werthfawrogi ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i unigolion a chymunedau ledled Cymru.

Mae pedwar categori ar ddeg o wobrau, ac enillwyr categorïau yn cael eu dewis gan banel gwobrau.

  • Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
  • Atal troseddu
  • Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Chydlyniant
  • Caethwasiaeth Fodern a cham-fanteisio
  • Troseddu a Chyfiawnder
  • Diogelwch y Cyhoedd
  • Diogelu
  • Ymyrraeth Gynnar
  • Trais Difrifol
  • Trosedd Gyfundrefnol
  • Terfysgaeth ac Eithafiaeth
  • Trais yn Erbyn Menywod a Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
  • Llywodraethu     
  • Partneriaethau