Cronfa waddol gymunedol genedlaethol yw Cronfa Cymru, sy’n cael ei rheoli a’i hyrwyddo gan Sefydliad Cymunedol Cymru.
Rhoddir grantiau o rhwng £500 – £2,000 i sefydliadau cymunedol bach ar sail gwirfoddolwyr gyda’u nod o gyflawni’r canlyniadau canlynol:
- Gwella cyfleoedd pobl mewn bywyd
- Adeiladu cymunedau cryfach
- Gwella amgylcheddau gwledig a threfol
- Annog pobl a chymunedau iachach a mwy egnïol
- Cadw treftadaeth a diwylliant
Gall grantiau gefnogi costau llawn neu rannol, er enghraifft: costau prosiectau, eitemau cyfalaf bach ac offer, costau craidd, gweithgareddau a rhaglenni (e.e. llogi ystafelloedd, costau trafnidiaeth, treuliau gwirfoddol, yswiriant, ffioedd tiwtoriaid, digwyddiadau cymunedol).
Am fwy o wybodaeth am bwy all a sut i wneud cais am grant dilynwch y linc isod.
Mae’r dyddiad cau i wneud cais i Sefydliad Cymunedol Cymru yn un hanner dydd ddydd Mawrth 04 Gorffennaf 2023.