Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, yn cefnogi nifer o ddigwyddiadau hyfforddi sydd ar y gweill i ysgogi meddwl yn y dyfodol.
Hwb Dyfodol – Sut I feddwl yn y tymore hir
Ydych chi eisiau gwybod mwy am feddwl hirdymor, rhoi cynnig ar wahanol dechnegau rhagweld a’u cymhwyso yn eich gwaith? Mae dau ddyddiad a lleoliad ar gael:
- 30 Ionawr, 10am-1pm, Caerdydd
- 4 Chwefror, 10am-1pm, Aberystwyth
I gofrestru, cwblhewchy ffurflen.
Cyfres Ymgyfraniad Prosiect Dewi – O dlodi i ffyniant
28 Ionawr, 11:30am-3pm, Aber Innovation
Bydd y digwyddiad hwn yn archwilio sut y gall dinasyddion helpu i lunio’r weledigaeth ar gyfer Cymru Lewyrchus o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Bydd yn cynnwys:
- Sut mae’r Ddeddf yn galluogi cymunedau i adeiladu cymdeithas arloesol, carbon isel sy’n gwerthfawrogi gwaith teg, yn cefnogi’r economi leol, ac yn meithrin defnydd cynaliadwy o adnoddau.
- Astudiaethau achos ysbrydoledig sy’n dangos pŵer ymgyfraniad dinasyddion a golygfeydd gwahanol.
- Ymarfer ‘World Cafe’ i’ch helpu chi i gysylltu a chydweithio ar atebion ymarferol ar gyfer eich cymuned a gwaith fel BGC. Anfonwch eich cwestiynau neu pwyntiau trafod ar gyfer yr ymarfer ‘World Cafe’ ymlaen llaw drwy anfon e-bost i daniel@copronet.wales.
- Mewnwelediadau ymarferol a phwyntiau cychwyn i gyrru newid ystyrlon a arweinir gan ddinasyddion.
Cofrestrwch yma.
Cyfres Ymgyfraniad Prosiect Dewi – Defnyddio Meddwl ar gyfer y Dyfodol – Sut i gynnwys pobl yn well mewn anghydraddoldebau iechyd
19 Chwefror, 10am-12:30pm, Ar-lein
Mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei wneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau i weithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd, ac i atal problemau parhaus megis anghydraddoldebau iechyd.
Bydd y digwyddiad hwn yn archwilio:
- Bwysigrwydd meddwl hirdymor ac argoelion sy’n dod i’r golwg mewn anghydraddoldebau iechyd.
- Astudiaethau achos ysbrydoledig sy’n dangos pŵer ymgyfraniad dinasyddion a golygfeydd gwahanol.
- Ymarfer ‘Futures Triangle’ i’ch helpu chi adlewyrchu ar dyniad y gorffennol, gwthiad y presenol a baich y dyfodol.
- Syniadau ymarferol a phwntiau cychwyn i ysbrydoli gweithrediad.
Cofrestrwch yma.