Neidio i'r prif gynnwys

Gyda Ni, Nid Yn Ein Herbyn

Gyda Ni, Nid Yn Ein Herbyn

Mae gweithwyr brys yng Nghymru yn gofyn i’r cyhoedd eu trin nhw gyda pharch

Mae data newydd wedi datgelu ymosodiadau ar weithwyr brys yng Nghymru.

Cafodd dros 4,240 o ymosodiadau eu cyflawni yn erbyn gweithwyr brys, gan gynnwys yr heddlu, criwiau tân ac ambiwlans, yn y cyfnod Ebrill 2019 – Tachwedd 2020, sy’n gynnydd misol o 202 ar gyfartaledd yn 2019 i 222 yn 2020, neu 10%.

Roedd ymosodiadau’n amrywio o gicio, dyrnu a Pen-bwtio, i boeri, slapio, brathu a cham-drin geiriol.

Mae gweithwyr brys yn gofyn i’r cyhoedd eu trin â pharch, a chael y ple canlynol – gweithio gyda ni, nid yn ein herbyn.

Addunedwch eich cefnogaeth i’r ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #GydaNiNidYnEinHerbyn neu #WithUsNotAgainstUs.