Neidio i'r prif gynnwys
Archwilio is-bynciau

Trosolwg Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Ddydd Iau 18 Ebrill 2024, 14:00 – 15:30 cynhaliodd Rhwydwaith Cymunedau Diogelach Cymru seminar i roi trosolwg o’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd mewn cyd-destun Cymreig. Roedd hwn wedi’i anelu at weithwyr proffesiynol ac ymarferwyr sy’n gweithio ym maes diogelwch cymunedol a chydlyniant cymunedol ar ôl clywed gan Carol Eland, Cynghorydd Allgymorth Rhanbarthol Cymru.

Roedd y cyflwyniad yn cynnwys:

  • Cyflwyniad i DBS a Chynghorydd Rhanbarthol Cymru
  • Deall manteision DBS a chi (sefydliad) yn cydweithio
  • Cwis chwalu mythau
  • Deall gwiriadau DBS gan gynnwys Meini Prawf Cymhwysedd a Gweithgaredd a Reoleiddir
  • Gwasanaeth diweddaru’r DBS
  • Deall atgyfeiriadau DBS
  • Deall Dyletswydd Gyfreithiol, Ymddygiad Perthnasol a Niwed
  • Sut i wneud atgyfeiriad o ansawdd da
  • Canlyniadau peidio â gwneud atgyfeiriad

Ni chawsom ganiatâd i recordio’r seminar oherwydd y dirwedd sy’n newid yn barhaus, fodd bynnag ar wefan y DBS sy’n cadw’r wybodaeth ddiweddaraf ac mae gweithdai misol rhad ac am ddim i sefydliadau ddysgu mwy am brosesau a deddfwriaeth y DBS. Gallwch gael rhagor o wybodaeth neu gofrestru drwy Weithdy Datgelu a Chymhwysedd y DBS a Gweithdy Gwahardd a Dyletswydd Gyfreithiol i Atgyfeirio DBS. Gallwch hefyd gysylltu â’r cyflwynydd Carol Eland yn uniongyrchol yn CarolAnn.Eland@dbs.gov.uk.