Neidio i'r prif gynnwys

Seminar Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASB) 2022

Archwilio is-bynciau

Atal Pobl Ifanc sy’n Ymwneud ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol rhag Mynd Ymlaen i Ymwneud â Thrais Difrifol a Throseddu Cyfundrefnol

Ar Ddydd Llun 18 Gorffennaf 2022, 11:30 – 13:00, cynhaliodd Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru seminar i gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2022. Archwiliodd y seminar yr ymagweddau a gaiff eu cymryd ledled Cymru i leihau a mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ymwneud â phobl ifanc rhag iddynt fynd ymlaen i ymwneud â Thrais Difrifol a Throseddu Cyfundrefnol, sy’n hynod o berthnasol yng ngoleuni’r Canllawiau ar y Ddyletswydd Trais Difrifol sydd ar y gweill.

Cyflwynodd Jeff Cuthbert, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent ac Arweinydd Plismona Lleol dros Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Cymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd (APCC), y seminar fel Prif Lefarydd. Cadeiriwyd y seminar gan Catherine Jones, Arweinydd Diogelwch Cymunedol Torfaen a Chadeirydd Rhwydwaith Ymarferwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Cymru Gyfan. Roedd y cyflwynwyr yn cynnwys Llywodraeth Cymru, gwasanaeth Goleudy a rhaglen INTACT Heddlu Dyfed Powys, Canolbwynt Cefnogaeth Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod, a Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru.

Isod fe welwch y pecyn seminar a recordiad o’r seminar.