Neidio i'r prif gynnwys

Lansio Cronfa Strydoedd Mwy Diogel - Rownd 5

Lansio Cronfa Strydoedd Mwy Diogel – Rownd 5

Heddiw mae’r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi lansiad Rownd 5 o’r Gronfa Strydoedd Mwy Diogel.

Bydd y Rownd yn rhedeg am 18-mis ar draws blynyddoedd ariannol 2023/24 a 2024/25, a bydd yn parhau i ganolbwyntio ar dargedu troseddau cymdogaeth, trais yn erbyn menywod a merched, ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Ar gyfer y Rownd hon, bydd Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ledled Cymru a Lloegr yn gymwys i wneud cais am tua £1.4m i ddarparu ymyriadau sy’n mynd i’r afael â throseddau cymdogaeth, ymddygiad gwrthgymdeithasol a VAWG, yn hytrach na gorfod gwneud cais am arian. Mae hyn yn adlewyrchu’r hyn a ddysgwyd ac adborth o gylchoedd blaenorol a ddangosodd fod y broses ymgeisio yn cymryd gormod o amser. Er bod y meini prawf cymhwysedd wedi newid, gyda dim ond Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu bellach yn gymwys i wneud cais uniongyrchol am gyllid, bydd gofyniad i Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu weithio gydag awdurdodau lleol yn eu hardal leol i ddatblygu cynigion.