Menter Bêl-droed Merthyr Tudful
<<Yn ôl i Astudiaethau Achos
Cyfrannwyd gan Adam LIKE, Ymgynghorydd Tactegol Lleihau Troseddau, Diogelwch Cymunedol Uned Reoli Sylfaenol Morgannwg Ganol.
Ar ddechrau 2023 roedd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a throsedd yn ymwneud â phobl ifanc ar gynnydd ym Mhentref Hamdden Rhydycar. Codwyd pryderon gan nifer o fusnesau yn y lleoliad. Roedd y galw hwn yn gynnydd sylweddol o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, fel y dangosir ar y graff (ffigwr 1).
Roedd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn ardal Merthyr ar yr adeg hon yn destun craffu ychwanegol. Roedd grŵp o unigolion ifanc – sy’n galw’u hunain yn “Young and Dangerous’ – wedi bod yn achosi problemau drwy ardal Merthyr, gan gynnwys Pentref Hamdden Rhydycar. Roedd hyn yn achosi ofn ymhlith y bobl ifanc a oedd eisiau mynychu’r lleoliad yn gyfreithlon.
Roedd gweithgarwch yn yr ardal yn cynnwys:
- Camdriniaeth eiriol yn erbyn staff
- Cyffuriau
- Dwyn
- Galwadau yn ymwneud â phryder am ddiogelwch
- Trais yn erbyn yr unigolyn
Roedd yr unigolion ifanc a oedd yn achosi pryder yn yr ardal yn tueddu i ymgasglu mewn grwpiau mawr, a oedd yn golygu fod casglu tystiolaeth yn erbyn unrhyw unigolyn yn hynod o anodd.
Fe luniodd Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu y ward 58004 Steffan John gynllun Plismona Datrys Problemau ym mis Chwefror, gan ymgynghori gyda’r Ymgynghorydd Tactegol Lleihau Troseddau. O ganlyniad i natur yr ardal, gyda chanolfan fowlio, sinema a McDonalds ar y safle, byddai pobl ifanc bob amser yn cael eu denu i’r ardal. Drwy SGANIO a DADANSODDI sefydlwyd mai gweithgarwch gwrthdyniadol i gynyddu ymgysylltu gyda phobl ifanc fyddai’r YMATEB cychwynnol gorau. Byddai newidiadau amgylcheddol a gwella diogelwch yn effeithio yn negyddol ar gwsmeriaid cyfreithlon sy’n defnyddio’r safle.
Cynhaliwyd cyfarfod ar y cyd gyda’r busnesau a’r ganolfan hamdden, y Tîm Plismona Cymdogaethau a’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, yr Ymgynghorydd Tactegol Lleihau Troseddau a’r Swyddog Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Canlyniad y cyfarfod hwn oedd ein bod wedi sicrhau’r defnydd o gaeau pêl-droed y ganolfan hamdden yn rhad ac am ddim (ar ôl i ffi gael ei nodi yn wreiddiol) a chynigiodd McDonalds arian tuag at git pêl-droed. Dewiswyd cyfnod prawf o 10 wythnos gan fod hyn yn cyd-fynd â’r system roedd y ganolfan hamdden yn ei defnyddio ar gyfer archebu mewn bloc.
Fe gynhaliodd Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu Steffan John a 57888 Michael Rees o Heddlu’r De sesiynau pêl-droed ar nos Wener. I ddechrau fe wnaethom ni benderfynu y byddai’n well peidio â hysbysebu’r digwyddiad – roedd y tensiynau rhwng y bobl ifanc a’r busnesau’n uchel. Nid oeddem eisiau denu nifer o bobl ifanc i’r ardal, hyd nes ein bod wedi asesu’r diddordeb a phwy fyddai o bosibl yn mynychu. O ganlyniad i hyn roedd y rhai a fanteisiodd ar y cychwyn yn araf, fodd bynnag, mae’r digwyddiad wedi bod yn ennill momentwm ac wedi cael effaith gadarnhaol ar y Pentref Hamdden.
Ers ei weithredu mae’r galw wedi gostwng yn is na’r lefelau “normal”.
Sylwer: Cychwynnodd y sesiynau pêl-droed ym mis Ebrill. Fe ostyngodd y galw cyn hyn, fodd bynnag roedd hyn gan fod swyddogion Castell-nedd Port Talbot wedi cyfrannu llawer o adnoddau anghynaliadwy yn yr ardal, tra roedd y pêl-droed yn cael ei gychwyn a’i gynllunio. Roedd angen datrysiad yn y tymor hirach.