Neidio i'r prif gynnwys

Pawennau ar Batrôl yng Nghastell-nedd Port Talbot

Pawennau ar Batrôl

Mae Pawennau ar Batrôl yn gynllun atal troseddu y mae’r Tîm Diogelwch Cymunedol yn ei weithredu yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac mae yno gynlluniau tebyg ar waith ledled Cymru fel yn Abertawe, er enghraifft. Gofynnir i bobl gyfrifol sy’n mynd â’u cŵn am dro yn ardal Castell-nedd Port Talbot helpu’r gymuned leol drwy gadw golwg am bethau fel graffiti, baw cŵn, golau stryd wedi torri, tipio anghyfreithlon, ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu a rhoi gwybod i’r awdurdodau ar ran y gymuned.  Mae Partneriaeth Castell-nedd Port Talbot Mwy Diogel yn credu bod y mil a mwy o bobl sy’n mynd â’u cŵn am dro yn y Fwrdeistref Sirol yn medru chwarae rhan bwysig wrth gadw cymunedau’n lanach a mwy diogel. Gall hyd yn oed pethau bach fod yn effeithiol.  Mae’r cynllun yn ategu cynlluniau cymunedol eraill fel Gwarchod y Gymdogaeth a Swyddogion Cefnogaeth Gymunedol Heddlu De Cymru. Nid oes disgwyl i neb ymyrryd mewn unrhyw sefyllfa. Y cyfan sydd i’w wneud yw rhoi gwybod i’r asiantaethau perthnasol a helpu i gasglu tystiolaeth.

Mae pob aelod newydd yn cael pecyn croeso sy’n cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol. Anfonir newyddlenni rheolaidd drwy e-bost sy’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau, tueddiadau troseddu a chyngor gan y bartneriaeth diogelwch cymunedol. Gellir anfon newyddlenni drwy’r post at bobl heb gysylltiad â’r rhyngrwyd.

Cyn y pandemig cynhaliwyd digwyddiadau rheolaidd i hyrwyddo’r cynllun, derbyn aelodau newydd a bod yn bresennol yn y gymuned i siarad â’r trigolion am unrhyw bryderon oedd ganddynt. Weithiau trefnwyd digwyddiadau mewn ardaloedd penodol lle’r oedd problemau wedi codi, er mwyn rhoi gwybod i bobl sut i adrodd am broblemau. Byddem yn gwahodd partneriaid eraill i’n digwyddiadau pan oedd hynny’n bosib, gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Cŵn, Heddlu De Cymru ac adrannau eraill o’r Cyngor.

Yn ystod y pandemig ni fu modd inni feithrin cyswllt â’r aelodau na chwrdd â rhai newydd, ac felly roedd hi’n bwysig inni ehangu’r cynllun ac ystyried dulliau digidol o weithredu. O ganlyniad i hynny gall aelodau newydd gofrestru ar-lein.

Mae yno hefyd dudalen newydd sbon ar Facebook ar gyfer Pawennau ar Batrôl, sy’n helpu wrth rannu negeseuon â’r aelodau ac yn hyrwyddo’r cynllun drwy annog pobl i gymryd rhan ar-lein @PawsNPT. Cyhoeddwyd neges yn ddiweddar am atal lladrad cŵn a gyrhaeddodd bron i ddeg mil o bobl ar gyfryngau cymdeithasol.

Mae gan gynllun Castell-nedd Port Talbot fwy na 1100 o aelodau.

Manteision i’r aelodau

  • Pecyn croeso am ddim os ydynt yn cofrestru mewn digwyddiad, a fersiwn electronig ohono wrth ymaelodi ar-lein.
  • Cael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am Ddiogelwch Cymunedol ac Atal Troseddu gan amrywiaeth o bartneriaid.
  • Newyddlenni bob deufis yn ogystal â rhifynnau arbennig fel y bo’r angen.
  • Cael cynnig pethau ychwanegol i’w helpu i deimlo’n ddiogel, fel y cynllun Teimlo’n Ddiogel a Phecynnau Atal Lladrad Cŵn (gweler y llun sydd ynghlwm).
  • Cael yr holl wybodaeth berthnasol am sut i adrodd ynghylch amrywiaeth o faterion diogelwch cymunedol.
  • Cael cyfle i siarad â’r tîm a’r asiantaethau sy’n bartneriaid mewn digwyddiadau.

Cyn y pandemig byddai digwyddiadau’n cynnwys

  • Archwiliad sylfaenol o iechyd cŵn am ddim gan yr Ymddiriedolaeth Cŵn.
  • Gosod a gwirio microsglodion am ddim gan yr Ymddiriedolaeth Cŵn.
  • Cymorth a chyngor gan yr Ymddiriedolaeth Cŵn.
  • Cynnig archwiliad o ddiogelwch tân yn y cartref gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
  • Cyngor ar Ddiogelwch Cymunedol ac Atal Troseddu gan y Tîm Diogelwch Cymunedol.
  • Cyngor am ddim ynglŷn ag ailgylchu a chyfle i gasglu cynwysyddion gwastraff newydd gan wasanaeth Ailgylchu Castell-nedd Port Talbot.
  • Cyngor am ddim a chyfle i drafod pryderon ynglŷn â throseddau gwastraff a baw cŵn.
  • Cyngor ynghylch Atal Troseddu a chynrychiolaeth gan Heddlu De Cymru.
  • Cyngor gan gymdeithasau tai lleol.

Gobeithiwn fedru ailddechrau’r digwyddiadau hyn yn y dyfodol agos. Rydym yn medru cynnal rhai digwyddiadau ond dim ond ar raddfa fechan iawn ar hyn o bryd. Rydym yn casglu tystiolaeth anecdotaidd yn rheolaidd ond fel arall mae’n anodd mesur faint o bobl sy’n adrodd ynghylch digwyddiadau gan eu bod yn adrodd yn syth i’r asiantaethau perthnasol.


Adborth

Partneriaid

Ceir ymateb cadarnhaol yn gyson i’r newyddlenni.

Aelodau

“Fe soniais am broblem tipio anghyfreithlon gyda’r manylion a ddarparwyd ac roedd y broblem wedi’i datrys mewn dau ddiwrnod.” (Ardal Blaendulais)

“Rwy’n teimlo’n rhan o’r gymuned ac yn cyfrannu at gadw’r ardal yn daclus i mi’n hun a phobl eraill yn y gymuned.”

Mae’r aelodau’n sôn hefyd eu bod nhw’n mwynhau darllen y newyddlenni a bod y pecynnau atal lladrad cŵn wedi gwneud iddynt deimlo’n fwy diogel. Mae un fenyw wedi symud tŷ deirgwaith a’n ffonio ni bob tro gyda’i manylion newydd gan ei bod yn mwynhau bod yn aelod o’r cynllun ac wedi bod yn rhan ohono ers blynyddoedd.

Awgrymiadau gan aelodau

  • Trefnu cyfarfodydd ag aelodau eraill Pawennau ar Batrôl.
  • Mynd am dro ac ar batrôl mewn grŵp ag aelodau eraill.
  • Penodi aelodau uwch sy’n gyfrifol am wahanol ardaloedd o’r Fwrdeistref.
  • Arwyddion ar gyfer yr ardal neu’r tŷ i ddangos eu bod yn aelodau Pawennau ar Batrôl.

Lessons Learned

  • Mae gweithio’n dda mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau lleol yn hanfodol os yw’r cynllun am lwyddo.
  • Mae’r amrywiaeth yn y newyddlenni yn gweithio’n dda.
  • Yn ddiweddar rydym wedi gweld fod angen dosbarthu newyddlenni ynglŷn â thywydd eithafol pan fydd rhybuddion o dywydd eithriadol o boeth neu oer. Byddwn yn gweithio ar y rhain yn yr wythnosau nesaf.
  • Mae ehangu’r cynllun a’i wneud yn fwy digidol wedi bod o fudd mawr ac yn ffordd dda o hybu’r aelodaeth a chodi ymwybyddiaeth.
  • Bu ymuno â chyfryngau cymdeithasol yn gam mawr yn y cyfeiriad iawn. Rhannwyd un o’n negeseuon cyntaf 70 o weithiau gan gyrraedd mwy na 9,800 o bobl.