Mae’r Swyddfa Gartref wedi lansio cyfle cyllido newydd o dan y Peilot Penderfynu wedi’i Ddatganoli ar gyfer Plant sy’n Dioddef o Gaethwasiaeth Fodern, gyda’r nod o ehangu’r peilot i safleoedd ychwanegol ledled y DU.
Mae Cystadleuaeth Grant Peilot Penderfynu wedi’i Ddatganoli bellach yn fyw ac ar agor ar gyfer ceisiadau. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 14 Mai 2025.
Anogir ymarferwyr diogelwch cymunedol yng Nghymru i rannu’r cyfle hwn gyda chydweithwyr mewn awdurdodau lleol a allai fod â diddordeb mewn cymryd rhan.
Ynglŷn â’r peilot
Mae’r peilot hwn yn cefnogi gwneud penderfyniadau’n lleol wrth nodi a chefnogi plant a allai fod yn ddioddefwyr caethwasiaeth fodern. Ei nod yw dod â’r penderfyniadau’n nes at y plentyn, gan sicrhau cymorth amserol ac addas sy’n diwallu eu hanghenion unigol.
Trwy ehangu i ragor o leoliadau, mae’r Swyddfa Gartref yn gobeithio profi a gwerthuso modelau lleol gwahanol o wneud penderfyniadau i lywio arfer cenedlaethol yn y dyfodol.
Sut i wneud cais
Mae manylion llawn y gystadleuaeth grant, gan gynnwys meini prawf cymhwystra a’r broses gwneud cais, ar gael ar wefan grantiau Llywodraeth y DU:
Cofrestru ar y Porth e-Gaffael
Bydd ceisiadau’n cael eu rheoli drwy Borth e-Gaffael Jaggaer y Swyddfa Gartref. Rhaid i sefydliadau gofrestru ar y system cyn gwneud cais.
Caniatewch hyd at 24 awr i’ch cofrestriad gael ei gymeradwyo.
Bydd angen i chi ddarparu:
- enw cyfreithiol llawn eich sefydliad
- eich rhif DUNS (rhif naw digid unigryw a ddarperir gan Dun & Bradstreet)
- proffil byr o’ch sefydliad, gan gynnwys ei faint
Pwysig: Os ydych eisoes wedi cofrestru ar Borth Jaggaer Gwasanaeth Masnachol y Goron, bydd angen i chi gofrestru ar wahân ar Borth Jaggaer y Swyddfa Gartref, gan eu bod yn systemau annibynnol.
Am gymorth gyda chofrestru, cysylltwch â: customersupport@jaggaer.com
Cwestiynau a rhagor o wybodaeth
Am ymholiadau cyffredinol, e-bostiwch: childmspilots@homeoffice.gov.uk
Dylai ymgeiswyr posibl gyflwyno unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud â’r gystadleuaeth drwy Borth e-Gaffael Jaggaer. Bydd yr holl ymatebion yn cael eu cyhoeddi ar y porth i sicrhau tryloywder a mynediad cyfartal at wybodaeth.