Neidio i'r prif gynnwys

Prevent ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Cyflwyniad i Prevent ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Gweithio gyda’n gilydd i ddiogelu ein pobl ifanc, ein hymarferwyr a’n rheolwyr

Gweithdy Ar-lein (2): adnabod ac atgyfeirio unigolion diamddiffyn

Mewn ymateb i adborth gan y sector gwaith ieuenctid*, bu i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), mewn partneriaeth ag Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru (WECTU), ddatblygu dwy weminar o’r enw Cyflwyniad i Prevent ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Gweithio gyda’n gilydd i ddiogelu ein pobl ifanc, ein hymarferwyr a’n rheolwyr a Gweithdy Ar-lein 2: adnabod ac atgyfeirio unigolion diamddiffyn. Roedd Gweithdy 2 yn atgoffa’r cynrychiolwyr am gynnwys gweithdy un ac yn edrych yn fwy trylwyr ar adnabod ac atgyfeirio unigolion diamddiffyn. Yr hyfforddwyr ar y cyd oedd Tim Opie (CLlLC), Martyn Thomas (WECTU) a Barrie Phillips (Arweinydd Atal y Swyddfa Gartref ar gyfer Addysg Ôl-16 yng Nghymru, sydd bellach wedi ymddeol).

Nod y gweithdy: Hyrwyddo mwy o ymwybyddiaeth o – a chydymffurfiad â – deddfwriaeth Gwrth-derfysgaeth a Diogelwch 2015, gan gyfeirio’n benodol at (i) y cyd-destun a (ii) adnabod a chefnogi unigolion diamddiffyn sydd mewn perygl o gael eu hudo i eithafiaeth, radicaliaeth a therfysgaeth.

Amcanion y gweithdy: Darparu’r canlynol ar gyfer ymarferwyr a rheolwyr y gwasanaeth ieuenctid:

  • Adolygiad ysgafn o gyd-destun y rhaglen Prevent a’i rôl allweddol mewn atal radicaliaeth – gan gyfeirio’n benodol at y gymuned a lleoliadau addysgol
  • Adolygiad ysgafn o’r bygythiad, y perygl a’r proffiliau niwed cenedlaethol a rhyngwladol presennol
  • Mwy o ymwybyddiaeth o’r gwahanol elfennau sy’n cyfrannu at fod yn ddiamddiffyn
  • Hyder i atgyfeirio unigolion at Prevent, pe bai’r angen yn cael ei bennu.

Gwahoddwyd cynrychiolwyr yn y ddwy sesiwn i lenwi ffurflenni gwerthuso a ddyluniwyd ymlaen llaw gan y siaradwyr.

*Nodyn: Mae gwaith ieuenctid yn cynnwys addysg a datblygiad cymdeithasol a phersonol pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed, a chaiff ei ddarparu mewn amrywiaeth o leoliadau fel clybiau ieuenctid, lleoliadau preswyl, canolfannau gwybodaeth, cyngor a chwnsela, ar y stryd, mewn amrywiol fannau cyhoeddus lle mae pobl ifanc yn cwrdd a drwy brosiectau sy’n canolbwyntio ar faterion arbennig ac ati.

Mae gwaith ieuenctid yn broffesiwn penodol gyda’i fframwaith cymwysterau a’i Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ei hun, sy’n cael ei ddarparu gan awdurdodau lleol ers y 1930au, ac mae ganddo ran bwysig i’w chwarae mewn darparu gwasanaethau cymorth ieuenctid. Ers mis Ebrill 2017, mae Gweithwyr Ieuenctid a Gweithwyr Cymorth Ieuenctid proffesiynol sy’n gweithio i awdurdodau lleol, sefydliadau’r sector gwirfoddol, ysgolion neu Sefydliadau Addysg Bellach, wedi gorfod cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (EWC).

 


Adborth

Nododd y cynrychiolwyr lefel uchel o foddhad gyda’r ddwy weminar, sy’n dangos bod y ddwy wedi diwallu eu hanghenion, e.e. yn dilyn gweithdy 2, nododd 100% o’r ymatebwyr eu bod yn cytuno neu’n cytuno’n gryf fod ganddynt bellach fwy o ymwybyddiaeth o’r berthynas rhwng rhaglen Prevent Llywodraeth y DU a diogelu.

Dyma rai sylwadau:

“Roedd yn wych clywed am yr effaith gadarnhaol y mae dull gweithredu gwaith ieuenctid yn ei gael. Rydw i’n weithiwr ieuenctid ac eisoes yn mynychu’r Paneli Channel, ac rydw i’n cael fy ngwahodd i fwy o baneli gyda’r effaith y mae dull gweithredu gwaith ieuenctid yn ei gael.”

“Roedd y siaradwyr yn amrywiol ac yn amlwg yn hyddysg iawn yn eu meysydd arbenigedd ac yn eu swyddi. Roedd eu cyfraniadau felly’n hynod fuddiol ac yn rhoi cipolwg ar broses atgyfeirio Prevent, a sut y gweithir gyda’r unigolyn i asesu a mynd i’r afael â’r materion y maent yn eu cyflwyno.  Roedd yn braf gwybod bod y sefyllfaoedd a gyflwynwyd yn flaenorol yn achosion go iawn sydd wedi cael eu hatgyfeirio, ac yn bobl y gweithiwyd gyda nhw.”

“Diolch am gyflwyniad arbennig o dda – roedd yn braf iawn gweld gweithwyr proffesiynol fel chi [Tim] yn dangos cymaint o barch tuag at y gwasanaeth ieuenctid a’r cyfraniad gwerthfawr rydym yn ei wneud i’r rhaglen hon.”


Gwersi a Ddysgwyd

O ystyried y cyflwynwyd y sesiynau ar lein (drwy MS Teams), er bod y sesiynau trafod yn benodol wedi gweithio cystal ag y gallen nhw, byddai unrhyw sesiynau yn y dyfodol yn elwa o gael eu cyflwyno wyneb yn wyneb er mwyn osgoi materion technegol ac i wella ansawdd y drafodaeth grŵp.

Nododd sylwadau o’r ffurflenni gwerthuso nad yw gwaith ieuenctid, er ei fod yn cael ei barchu fel ymyrraeth gyda phobl ifanc, yn cael yr un lefel o gydnabyddiaeth â phroffesiynau eraill, fel gwaith cymdeithasol ac addysgu, yn enwedig mewn perthynas â’r rhaglen Prevent.

Nid yw rôl Gwaith Ieuenctid mewn meysydd cysylltiedig eraill, fel Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant (CSE), yn cael ei werthfawrogi cymaint chwaith. Er na chymerwyd y gwaith o ddifrif ar y pryd, cydnabuwyd mewn nifer o adroddiadau bod gwaith ieuenctid yn un o’r ychydig sectorau cyfrannol a gyflawnodd eu rôl yn rhagorol. Mae adborth tebyg yn dod i’r amlwg yn y rhaglen Llinellau Cyffuriau, lle mae rôl gweithwyr ieuenctid yn cael ei hystyried yn fwyfwy hanfodol o ran adnabod pobl ifanc mewn perygl o ddioddef camfanteisio, eu hatal rhag cymryd rhan mewn Llinellau Cyffuriau/diwylliant gangiau a’u cefnogi i ddod yn rhydd o’u gafael.

Un ffactor pwysig a gododd o’r sesiynau oedd bod y siaradwyr ar ran WECTU, yr Heddlu, y Seicolegydd oedd yn arbenigo mewn radicaliaeth ac Ymgynghorydd Prevent y Swyddfa Gartref (sydd newydd ymddeol) yn deall, yn cydnabod ac yn dathlu rôl werthfawr gwaith ieuenctid (ymyrraeth addysgol sy’n ymgysylltu â phobl ifanc drwy fagu perthynas a datblygu ymddiriedaeth ac sydd ar sail wirfoddol), a gafodd effaith gadarnhaol.

Gan i’r model lwyddo cystal yn ei nod o godi ymwybyddiaeth a darparu gwybodaeth am y rhaglen Prevent (gan ganolbwyntio ar yr elfen ddiogelu), mae’r cydweithwyr oedd yn rhan o’i ddarparu bellach yn gweithio gyda’r sector Dysgu Seiliedig ar Waith i gynnig cyfle tebyg i’r staff yno.