Rhwydwaith Ymarferwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Cadeirir y Rhwydwaith Ymarferwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol gan ymarferwr o Torfaen Mwy Diogel, ac mae cysylltiad uniongyrchol rhwng y rhwydwaith a blaenoriaeth 4 ar gyfer y Bwrdd. Mae’n cyfarfod ddwy neu dair gwaith y flwyddyn ac mae ar agor i Ymarferwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol o Awdurdodau Lleol, yr Heddlu, Tai, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a’r Trydydd Sector.
Cylch Gorchwyl ar gyfer Rhwydwaith Ymarferwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (Saesneg yn unig)
Rhwydwaith Gwella Data a Dadansoddi Arloesol Cymru (WDAIIN)
Cadeirir WDAIIN gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys, ac mae cyswllt uniongyrchol rhwng y rhwydwaith a blaenoriaeth 3 ar gyfer y Bwrdd. Mae’n cyfarfod yn chwarterol ac ar agor i unrhyw un sydd â diddordeb mewn Dadansoddi Data a gwella prosesau rhannu a defnyddio data’n gyson ar draws Cymru.
Pwrpas WDAIIN yw darparu arweinyddiaeth, goruchwyliaeth a chyfarwyddiaeth rhwng bob partner mewn perthynas â dadansoddi data. Darparu goruchwyliaeth er mwyn galluogi arloesedd a gwelliant a gefnogir gan ddata a gwaith dadansoddol ar draws Cymru gyfan, darparu cefnogaeth i waith partneriaeth lleol a fydd yn cefnogi cymunedau diogel, cryf a mwy hyderus.
Cylch Gorchwyl WDAIIN (Saesneg yn unig)
Cymdeithas Swyddogion Diogelwch Cymunedol Cymru (WASCO)
Mae WACSO yn cynnwys Swyddogion Diogelwch Cymunedol o’r 22 Awdurdod Lleol ar draws Cymru. Y Rheolwr Diogelwch Cymunedol o Gyngor Gaerdydd, sy’n aelod o Fwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru, yw’r Cadeirydd ar hyn o bryd.
Cylch Gorchwyl WACSO (Saesneg yn unig)
Bwrdd Atal Cymru Heb Drais
Mae’r bwrdd hwn yn ymgynnull pan fo’r Cadeiryddion yn teimlo bod materion sydd angen eu trafod a’u hystyried. Pwrpas y bwrdd yw sicrhau bod synergedd a dealltwriaeth ar draws Cymru yn y maes hwn a rhannu unrhyw faterion newydd neu ddiweddariadau gan y Swyddfa Gartref yn gyflym ac yn effeithiol gyda’r arweinwyr allweddol. Caiff y bwrdd ei gadeirio ar y cyd gan Bennaeth yr Uned Atal Trais a phennaeth y Rhwydwaith.
Nid yw’r Cylch Gorchwyl wedi’i gadarnhau eto.
Cyfiawnder Cymunedol Cymru
Rhwydwaith neu Grŵp o sefydliadau trydydd sector sydd ynghlwm â Diogelwch Cymunedol ar draws Cymru yw Cyfiawnder Cymunedol Cymru. Caiff ei gadeirio gan Brif Weithredwr Cymru Mwy Diogel. Mae’r Cadeirydd yn aelod o Fwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru. Mae Cyfiawnder Cymunedol Cymru yn rhan o Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, er mwyn sicrhau llais a llwybr clir i’r trydydd sector ar gyfer dylanwadu ac ymgysylltu.