Digwyddiadau
Dydd Llun 16 Medi
Cwrdd â ni yn y Mastering Diversity Conference yn Stadiwm Principality Caerdydd. Nod y gynhadledd yw addysgu, ysbrydoli, cydnabod a hyrwyddo hunaniaeth bersonol. Bydd gennym stondin arddangos a bydd aelodau o dîm y Rhwydwaith wrth law i gael sgwrs am yr hyn rydym yn ei wneud a sut rydym yn cefnogi diogelwch cymunedol i bawb yng Nghymru.
Dydd Mawrth 17 Medi
Cinio a Dysgu: Gwobrau Cymunedau Diogelach
Mae Gwobrau Cymunedau Diogelach ar agor ar gyfer enwebiadau a nawr rydyn ni yn yr ail flwyddyn o ddathlu llwyddiannau ym maes diogelwch cymunedol. Byddwn yn arddangos enillydd cyffredinol blwyddyn diwethaf, Ymgyrch Blue Tylluan o Dîm Troseddau Blaenoriaeth Ardal Ganolog Heddlu Gogledd Cymru. Bydd tîm y Rhwydwaith hefyd yn rhoi crynodeb o’r seremoni wobrwyo eleni a sut i anfon enwebiadau.
Os oes gennych chi ddiddordeb yn y gwobrau ond eisiau gwybod mwy neu eisiau dysgu am brosiectau sydd wedi ennill gwobrau, ymunwch â ni ar gyfer y sesiwn hon.
Recordiad Cinio a Dysgu
Dydd Mercher 18 Medi
Cinio a Dysgu: Cydweithio i sicrhau canlyniadau gwell
Mae diogelwch cymunedol yn gyfrifoldeb ar y cyd – y Llywodraeth, y sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector gwirfoddol, y sector preifat a’r cymunedau eu hunain.
Clywch gan Ben Lloyd, Cyfarwyddwr Cymunedol G4S, am yr effaith y mae cydgyfrifoldeb yn ei chael ar y canlyniadau i unigolion.
Recordiad Cinio a Dysgu
Dydd Iau 19 Medi
Mae Rhwydwaith Gwella Data a Dadansoddi Arloesol Cymru (WDAIIN) yn cynnal hackathon i edrych ar gasglu a rhannu data sy’n cysylltiedig ag opioidau synthetig a’r effaith ar ein cymunedau.
Mae’r Rhwydwaith yn cynnal y digwyddiad ar ran WDAIIN wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd. Cysylltwch os hoffech chi gymryd rhan neu wybod mwy am y digwyddiad hwn.