Neidio i'r prif gynnwys

Seminar Series & BRIFF Evaluation Reports 2021/22

Adroddiadau Gwerthuso Cyfres Seminar & BRIFF 2021/22

Fel rhan o werthusiad parhaus y Rhwydwaith o’n cynnig i bartneriaid a rhanddeiliaid, rydym wedi cynnal gwerthusiad o’n Cyfres Seminar a’n cylchlythyr bob pythefnos “BRIFF”.

Ers ei sefydlu ym mis Ionawr 2021, mae’r Rhwydwaith wedi cynnal dwy gyfres seminar – cynhaliwyd y gyfres haf rhwng mis Mehefin a mis Gorffennaf 2021, a rhedodd y gyfres gaeaf o fis Chwefror i fis Mawrth 2022. Roedd pob cyfres yn cynnwys tair seminar rhithwir yr un.

Rhwng 7 Rhagfyr 2021 a 28 Ionawr 2022, cynhaliodd y Rhwydwaith arolwg o’r cylchlythyr bob pythefnos, BRIFF. Pan ddaeth yr arolwg i ben, roedd 47 cyhoeddiad wedi’u cyhoeddi drwy e-bost.

Cynulleidfa graidd y gyfres seminar a BRIFF yw gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr sy’n gweithio ym maes diogelwch cymunedol yng Nghymru, sy’n cynnwys asiantaethau datganoledig ac asiantaethau nad ydynt wedi’u datganoli, cydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.

I ddarllen yr adroddiadau cliciwch yma