Neidio i'r prif gynnwys

Mabwysiadu dull gweithredu gwahanol i gyflawni System Cyfiawnder Troseddol gwrth-hiliol yng Nghymru

Mabwysiadu dull gweithredu gwahanol i gyflawni System Cyfiawnder Troseddol gwrth-hiliol yng Nghymru

Wedi’i anelu at weithwyr proffesiynol ac ymarferwyr sy’n gweithio ym maes diogelwch cymunedol a chydlyniant cymunedol, bydd y seminar hon yn archwilio beth mae’n ei olygu i gymryd agwedd gwrth-hiliol; rolau a chyfrifoldebau pobl wyn yn y mudiad gwrth-hiliaeth; a sut y gallwn ni fel gweithwyr proffesiynol gynnwys gwrth-hiliaeth yn ein hymarfer o ddydd i ddydd.

Gyda chyflwynwyr sy’n gweithio ar Gynllun Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol i Gymru, bydd hon yn sesiwn ryngweithiol lle gallwch ddysgu yn ogystal â gwrando. Bydd cyfle hefyd i gynrychiolwyr ofyn cwestiynau a rhannu gwybodaeth leol ac enghreifftiau o arfer da.

Cofrestrwch yma.