Neidio i'r prif gynnwys

Terfysgaeth ac Eithafiaeth

Beth yw Terfysgaeth ac Eithafiaeth?

Mae effaith Covid-19, arwahanrwydd cymdeithasol a chynnydd mewn eithafiaeth atgas ar-lein yn creu ‘storm berffaith’ sy’n gwneud mwy o bobl ifanc yn agored i radicaliaeth a ffurfiau eraill ar feithrin perthynas amhriodol. Rhwng 1 Ionawr 2019 a 30 Mehefin 2020, cafodd 17 plentyn eu harestio mewn perthynas â throseddau terfysgaeth. Roedd rhai ohonyn nhw mor ifanc â 14 oed, a bydd bron pob un ohonyn nhw wedi ei cael ei radicaleiddio’n gyfan gwbl ar-lein.”

Plismona Gwrthderfysgaeth, Adolygiad o Flwyddyn 2020

Diffiniad cyfreithiol “Terfysgaeth” yw defnyddio gweithred neu fygwth gweithredu gyda’r bwriad o ddylanwadu ar lywodraeth, neu sefydliad llywodraethol rhyngwladol, neu i godi ofn ar y cyhoedd neu ran o’r cyhoedd, a gwneud hynny er mwyn hyrwyddo achos gwleidyddol, crefyddol, hiliol neu ideolegol.

Byddai’n rhaid i’r bygythiad neu’r camau gweithredu gynnwys trais difrifol yn erbyn person neu ddifrod difrifol i eiddo; neu beryglu bywyd person, ar wahân i fywyd y person sy’n cyflawni’r weithred; neu achosi perygl difrifol i iechyd neu ddiogelwch y cyhoedd; neu ei fod wedi’i ddylunio i ymyrryd yn ddifrifol â system electronig neu i aflonyddu’n ddifrifol ar system electronig.

 Mae ymdrin â bygythiad uniongyrchol o derfysgaeth yn cael ei atgyfnerthu gan waith ehangach i ymdrin ag eithafiaeth dreisgar ac eithafiaeth ddi-drais. Caiff eithafiaeth ei diffinio yn Strategaeth Gwrtheithafiaeth, 2015 fel: “gwrthwynebiad lleisiol neu weithredol i’n gwerthoedd sylfaenol, yn cynnwys democratiaeth, rheolau’r gyfraith, rhyddid unigolion a pharch a goddefgarwch gwahanol ffydd a chredoau at ei gilydd. Mae galwadau i ladd aelodau o’n lluoedd arfog hefyd yn cael ei ystyried yn eithafiaeth.”

Beth yw CONTEST?

Yn bennaf, defnyddir CONTEST, sef strategaeth gwrthderfysgaeth llywodraeth y DU i ymdrin â bygythiadau o Derfysgaeth ac Eithafiaeth. Mae’n nodi mai terfysgaeth Islamaidd yw’r bygythiad terfysgol mwyaf i’r DU, gyda phryder cynyddol am derfysgaeth adain dde eithafol. Mae lefelau bygythiad wedi eu dylunio i roi syniad cyffredinol o’r tebygolrwydd o gael ymosodiad gan derfysgwyr. Nod strategaeth CONTEST yw lleihau’r perygl o derfysgaeth i’r DU drwy gyfrwng pedwar maes gwaith:

Atal: rhwystro pobl rhag troi’n derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth.

Dilyn: i atal ymosodiadau gan derfysgwyr.

Amddiffyn: cryfhau ein hamddiffyniad yn erbyn ymosodiad gan derfysgwyr.

Paratoi: i liniaru effaith ymosodiad gan derfysgwyr.

Mae ymdrin â bygythiad uniongyrchol o derfysgaeth drwy CONTEST yn cael ei atgyfnerthu gan waith ehangach i fynd i’r afael ag eithafiaeth dreisgar ac eithafiaeth ddi-drais. Mae hyn yn cael ei gefnogi drwy waith Dyletswydd Prevent a’r Strategaeth Gwrtheithafiaeth. Yn ogystal â hyn, mae Cydlyniant cymunedol yn flaenoriaeth draws-lywodraethol nodedig i adeiladu cadernid a gall helpu i leihau cyfleoedd i eithafwyr.

Cefnogir CONTEST yng Nghymru drwy Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru (WECTU). Sefydlwyd yr Uned yn 2006, a chrëwyd un Gangen Arbennig ar gyfer Cymru gyfan. Drwy gydweithio, mae’r Uned yn gobeithio gweithio’n fwy effeithiol wrth ymateb i fygythiad terfysgaeth ac eithafiaeth cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae Ymgyrch Action Counters Terrorism (ACT) gan Awdurdodau Plismona Gwrthderfysgaeth y DU yn datgan y gallai enghreifftiau o weithgarwch neu ymddygiad amheus gynnwys:

  • Llogi cerbydau mawr neu rywbeth tebyg heb reswm amlwg.
  • Prynu neu storio swm mawr o gemegion, gwrteithiau, neu silindrau nwy heb reswm amlwg.
  • Cymryd nodiadau neu luniau o drefniadau diogelwch neu archwilio camerâu Teledu Cylch Caeedig mewn ffordd anarferol.
  • Edrych ar ddeunydd eithafol, yn cynnwys edrych ar yr hyn a elwir y We Dywyll, neu rannu a chreu cynnwys sy’n hyrwyddo neu’n clodfori terfysgaeth.
  • Rhywun yn derbyn cyflenwadau o eitemau anarferol a brynwyd ar-lein.
  • Cefnogi neu hyrwyddo’n frwd syniadau atgas neu ideoleg eithafol.
  • Bod yn berchen ar arfau tanio neu arfau eraill neu ddangos diddordeb mewn cael arfau o’r fath.
  • Bod â phasbortau neu ddogfennau eraill mewn enwau gwahanol, heb reswm amlwg.
  • Unrhyw un sy’n mynd i ffwrdd i deithio am gyfnodau hir ond ddim yn rhoi llawer o fanylion am y lleoliad.
  • Rhywun sy’n gwneud trafodion banc amheus neu anarferol.

Os byddwch yn gweld neu’n clywed rhywbeth anarferol neu amheus, dilynwch eich greddf a GWEITHREDWCH drwy adrodd amdano’n gyfrinachol ar wefan gov.uk/ACT neu, mewn argyfwng, ffoniwch 999.

Podlediad Cymunedau Mwy Diogel

Mae Deddf Terfysgaeth 2000 yn diffinio Terfysgaeth a throseddau cysylltiedig, ac mae’n rhoi pwerau i’r heddlu arestio a chadw terfysgwyr dan amheuaeth yn y ddalfa, stopio a chwilio cerbydau a cherddwyr, a gosod cyfyngiadau parcio. Mae’n rhoi pwerau i ymchwilio i derfysgaeth drwy chwilio eiddo a phwerau cyffredinol i’r heddlu, swyddogion y tollau a mewnfudo, yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth.

Mae Deddf Gwrthderfysgaeth a Dedfrydu 2021 yn ehangu’r troseddau y gellir eu hystyried yn droseddau sy’n gysylltiedig â therfysgaeth, ac mae’n cynyddu dedfrydau, rhoi isafswm cyfnod o 12 mis ar drwydded, ac mae’n golygu bod rhaid i droseddwyr sy’n oedolion gymryd profion polygraffau. Rhaid i droseddwyr gydymffurfio â’r hysbysiad o ofynion Cofrestr Troseddwyr Terfysgol ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau. Mae’r Ddeddf yn atgyfnerthu Mesurau Atal ac Ymchwilio i Derfysgaeth ac mae’n cefnogi’r defnydd o Orchmynion Atal Troseddu Difrifol mewn achosion o derfysgaeth.

Mae Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 a ddiweddarwyd gan Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelu Ffiniau 2019, yn amlinellu’r dyletswyddau i atal pobl ddiamddiffyn rhag cael eu denu at derfysgaeth. Mae gweithgareddau atal mewn ardaloedd lleol yn dibynnu ar gydweithrediad llawer o sefydliadau er mwyn iddyn nhw fod yn effeithiol. Mae Pennod 1 Rhan 5 Deddf 2015 yn ategu’r cydweithrediad hwn gyda dyletswydd ar awdurdodau penodol (a restrir yn Atodlen 6 Deddf 2015), yn cynnwys awdurdodau lleol, yr heddlu, carchardai a darparwyr gwasanaethau prawf, a darparwyr addysg ac iechyd, i dalu sylw trylwyr a diwyd at yr angen i atal pobl rhag cael eu denu at derfysgaeth, pan fyddan nhw’n cyflawni eu swyddogaethau. Mae’r Ddyletswydd i Atal wedi ei chynnwys yn benodol yn Adran 26 Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015.

Mae Pennod 2 Rhan 5 Deddf 2015 yn ategu’r Trefniadau sianelu. Yn benodol, mae adran 36 yn galw ar awdurdodau lleol i sefydlu panel (a elwir yn “banel Sianelu”) i drafod a, lle bo hynny’n briodol, penderfynu pa gefnogaeth a roddir i bobl sydd wedi eu nodi gan yr heddlu fel unigolion sydd mewn perygl o gael eu denu at derfysgaeth. Rhaid i’r panel benderfynu pa gefnogaeth a roddir ac o dan ba amgylchiadau. Mae is-adrannau (3) a (4) yn diwygio adran 36 er mwyn galluogi awdurdod lleol, yn ogystal â’r heddlu, i gyfeirio unigolyn maen nhw’n ei gredu sy’n agored i gael ei ddenu at derfysgaeth at banel Sianelu. Mae Adran 38 yn gofyn i bartneriaid panel (hynny yw, y cyrff a restrir yn Atodlen 7 Deddf 2015) i gydweithredu gyda’r panel er mwyn ei alluogi i lunio penderfyniadau ar sail gwybodaeth a chyflawni ei swyddogaethau. Mae dyletswydd gysylltiedig i gydweithredu gyda’r heddlu, yn benodol, mewn perthynas â’u swyddogaeth i benderfynu a ddylid cyfeirio unigolyn at banel er mwyn cynnal asesiad neu beidio. Mae is-adrannau (6) a (7) yn diwygio adran 38 fel bod y ddyletswydd ar y partneriaid mewn panel i gydweithredu gyda’r heddlu wrth gyflawni eu swyddogaethau dan adran 36 yn ymestyn i ddyletswydd i gydweithredu gydag awdurdod lleol sy’n cyflawni swyddogaethau o’r fath. Rhaid i bartneriaid mewn panel roi sylw i ganllawiau statudol a gyhoeddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

 Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn amlinellu’r ddyletswydd llesiant ar gyrff cyhoeddus, sy’n gorfod gosod amcanion llesiant er mwyn cwrdd â nodau llesiant – un o’r rhain yw Cymru â chymunedau cydlynus. Bydd y nod hwn yn cefnogi cymunedau deniadol, hyfyw, diogel sydd wedi eu cydgysylltu’n dda. Mae adeiladu cymunedau mwy cydlynus hefyd yn rhan allweddol o Strategaeth Gwrtheithafiaeth y DU.

Mae’r Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl, a mesurau anneddfwriaethol sy’n gysylltiedig â hi, yn darparu un fframwaith ar gyfer amddiffyniad sifil yn y DU. Mae’r Ddeddf wedi ei rhannu’n 2 ran: trefniadau lleol ar gyfer amddiffyn sifil (Rhan 1); a phwerau argyfwng (Rhan 2). Mae Fforwm Cymru Gydnerth a fforymau lleol yn dod â phartneriaid ynghyd er mwyn helpu i gyflawni’r dyletswyddau hyn yng Nghymru.

Cynhelir ymgynghoriad hefyd ar y Ddyletswydd i Amddiffyn newydd.

  • Mae ACT Awareness e-Learning yn gwrs sy’n rhad ac am ddim a gafodd ei greu ar gyfer pob cwmni a sefydliad yn y DU i godi ymwybyddiaeth am fesurau gwrthderfysgaeth, ac mae wedi cael ei ymestyn i gael ei ddefnyddio gan y cyhoedd hefyd.
  • Mae Pecyn hyfforddi e-ddysgu Preventyn gosod sylfaen er mwyn datblygu gwybodaeth bellach am beryglon radicaleiddio a’r gwaith sy’n cael ei wneud i gefnogi’r rhai sydd mewn perygl.
  • Bydd pob awdurdod sy’n rhwym i’r Ddyletswydd angen sicrhau eu bod yn rhoi hyfforddiant priodol i’w staff sy’n gyfrifol am roi’r Ddyletswydd ar waith. Efallai’r hoffen nhw ystyried yr adnoddau hyfforddi eraill sydd ar gael yng nghatalog hyfforddiant Prevent i gefnogi’r modd y maent yn rhoi Dyletswydd Prevent ar waith.

Dolenni defnyddiol

Mae’r gwefannau allweddol yn cynnwys Plismona Gwrthderfysgaeth, ACT Early, Swyddfa Ddiogelwch Genedlaethol Gwrthderfysgaeth, y Ganolfan i Amddiffyn Isadeiledd Cenedlaethol a thudalennau Gwrthderfysgaeth Llywodraeth y DU

Gallwch ffonio llinell wybodaeth genedlaethol Prevent yr heddlu 0800 011 3764, yn gyfrinachol, i rannu eich pryderon gyda swyddogion sydd wedi eu hyfforddi’n arbennig.

Ewch i’r Wefan

Mae elusen Cymorth i Ddioddefwyr yn rhoi gwybodaeth i rai sydd wedi eu heffeithio gan derfysgaeth.

Ewch i’r Wefan

Lywodraeth y DU dudalen benodol gyda chyngor a chymorth ar gyfer dioddefwyr terfysgaeth.

Ewch i’r Wefan

Ymhlith y prif gyhoeddiadau mae:

Mae’r cyhoeddiadau perthnasol eraill yn cynnwys:

Mae’r ymgyrch ‘Action Counters Terrorism’ neu’r Ymgyrch ‘ACT’ yn rhoi gwybodaeth, gan gynnwys ffyrdd i adrodd am derfysgaeth neu gynnwys eithafol. Mae Ap ACT, a gaiff ei redeg gan Urim, yn rhoi mynediad at hyfforddiant, gwybodaeth a chymorth ar sut i reoli digwyddiadau. Ceir rhagor o wybodaeth yma neu gellir ei lawrlwytho ar Apple neu Android.

Ewch i’r Wefan

Mae ffilm Eyes Wide Open ar gyfer unrhyw un sydd â rôl ddiogelwch o fewn isadeiledd cenedlaethol y DU neu gyfrifoldeb am ddiogelwch mewn mannau prysur. Mae’n helpu pobl i sylwi ar ymddygiad amheus a bod â’r hyder i roi gwybod am ddigwyddiadau amheus. Ewch i sianel YouTube y Ganolfan Amddiffyn Isadeiledd Cenedlaethol (CPNI) neu sianel YouTube Plismona Gwrthderfysgaeth i weld rhagor o fideos addysgol.

Gwylio’r Ffilm

Mae’r Adran Plismona Gwrthderfysgaeth wedi cydweithio gydag arbenigwyr o Gymdeithas Addysg Bersonol, Gymdeithasol ac Iechyd, a’r Geidiaid, i gyflwyno cyngor am ddiogelwch yn ymwneud â therfysgaeth mewn ystafelloedd dosbarth ac i sefydliadau ieuenctid yn y DU am y tro cyntaf. Gallwch gael mynediad at yr adnoddau ieuenctid a’r cynlluniau gwersi yma.

Ewch i’r Wefan

Gallwch ganfod rhagor o wybodaeth am brosiectau allweddol yn:

Project Servator – yr heddlu’n gweithio gyda’r gymuned, busnesau, partneriaid, a’r cyhoedd i adeiladu rhwydwaith o wyliadwriaeth ac i annog pobl i adrodd am weithgareddau amheus.

Ewch i’r Wefan

Project Kraken – y cynllun cenedlaethol i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd am derfysgaeth a gweithgareddau troseddol neu amheus mewn marinâu, mannau angori neu ar y dŵr.

Ewch i’r Wefan

Project Pegasus – cynllun a sefydlwyd i gael pobl sy’n gweithio yn y diwydiant hedfan awyrennau neu sy’n byw ger meysydd awyr i ymuno â’r frwydr yn erbyn terfysgaeth a throseddau cyfundrefnol.

Ewch i’r Wefan