Neidio i'r prif gynnwys

Trosolwg Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Trosolwg Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Mae ein Cyfres Seminar Gwanwyn/ Haf 2023 rhithwir wedi dechrau!

Cofrestrwch eich lle heddiw i fynychu trydydd seminar y gyfres, Trosolwg Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Wedi’i anelu at weithwyr proffesiynol ac ymarferwyr sy’n gweithio ym maes diogelwch cymunedol a chydlyniant cymunedol, bydd y seminar hon yn rhoi trosolwg o’r DBS mewn cyd-destun Cymreig gyda Carol Eland, Cynghorydd Allgymorth Rhanbarthol Cymru.

Bydd y cyflwyniad yn cynnwys:

  • Cyflwyniad i DBS a Chynghorydd Rhanbarthol Cymru
  • Deall manteision DBS a chi (sefydliad) yn cydweithio
  • Cwis chwalu mythau
  • Deall gwiriadau DBS gan gynnwys Meini Prawf Cymhwysedd a Gweithgaredd a Reoleiddir
  • Gwasanaeth diweddaru’r DBS
  • Deall atgyfeiriadau DBS
  • Deall Dyletswydd Gyfreithiol, Ymddygiad Perthnasol a Niwed
  • Sut i wneud atgyfeiriad o ansawdd da
  • Canlyniadau peidio â gwneud atgyfeiriad

Cofrestrwch yma.