Hafan » Deall ac Atal Trais gyda Phlant a Phobl Ifanc
<<Yn ôl i Seminar a Hyfforddiant Gorffennol
Deall ac Atal Trais gyda Phlant a Phobl Ifanc
Ar Ddydd Mawrth 02 Mai 2023, 14:00 – 15:30, cynhaliodd Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru seminar ar Ddeall ac Atal Trais gyda Phlant a Phobl Ifanc, a fynychodd dros 180 o bobl.
Wedi’i anelu at weithwyr proffesiynol ac ymarferwyr sy’n gweithio ym maes diogelwch cymunedol a chydlyniant cymunedol, roedd y seminar yn archwilio’r Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid (Llywodraeth Cymru), Fframwaith Cymru Heb Drais (Uned Atal Trais Cymru), a gwaith sy’n digwydd yn lleol drwy’r Gronfa Gwaddol Ieuenctid.
Isod fe welwch y pecyn ôl-seminar a chopi o gyflwyniadau siaradwyr.
