Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru (CHTh) yn chwilio am Brif Ddadansoddwr Partneriaeth i ymuno â’r Uned Atal a Lleihau Trais (UALlT). Mae hwn yn gyfle cyffrous i gyfrannu at ddull iechyd y cyhoedd amlasiantaethol De Cymru o atal trais, ymyrryd yn gynnar a newid y system.
Bydd Prif Ddadansoddwr Partneriaeth yr Uned Atal a Lleihau Trais (UALlT) yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi’r Uned Atal a Lleihau Trais (UALlT) i gyflawni ei rhaglen waith, sy’n gyson â Chynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder (2025-2029) Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, a Strategaeth Atal a Lleihau Trais De Cymru.
Bydd deiliad y swydd yn rhoi cymorth rhagweithiol o ansawdd uchel mewn perthynas â gwybodaeth, ymchwil a chasglu data, adolygu a dehongli i Bennaeth yr Uned Atal a Lleihau Trais a thîm ehangach yr Uned.
Bydd cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys helpu’r Uned i gyflawni dyletswyddau’r Grant Lleihau Trais a’r Ddyletswydd Trais Difrifol, gan gynnwys cefnogi dealltwriaeth o effaith ymyriadau a ariennir; cynnal Asesiad o Anghenion Strategol Trais Difrifol bob blwyddyn; a gweithio gyda Phartneriaethau Atal lleol i goladu a dadansoddi data ar gyfer eu Hasesiadau o Anghenion Strategol perthnasol. Bydd y rôl yn cynnwys helpu gyda’r gwaith o gyflawni’r camau atal a lleihau trais yng Nghynllun Heddlu, Troseddu a Chyfiawnder a Strategaeth Atal a Lleihau Trais De Cymru. Bydd deiliad y swydd hefyd yn cefnogi gofynion data, dadansoddi a gwybodaeth Bwrdd Strategol Atal a Lleihau Trais De Cymru ac is-grwpiau.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar brofiad o weithio mewn rôl Dadansoddi Data a Gwybodaeth, yn fedrus wrth ddefnyddio rhaglenni Microsoft ac yn dangos lefel uchel o allu cyfrifiadurol o ran prosesu geiriau, meddalwedd taenlen a chronfa ddata, gan gynnwys y gwaith cymhleth o drin data. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu llunio adroddiadau rhesymegol a strwythuredig o ansawdd uchel a bydd yn hyderus yn gweithio mewn amgylchedd amlasiantaethol prysur ac yn gallu meithrin cydberthnasau gwaith cadarn ar draws y meysydd plismona, iechyd, addysg, awdurdodau lleol, a’r trydydd sector.
Mae hwn yn gyfle gwych i helpu i ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth o ymdrechion atal a lleihau trais ac i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ledled De Cymru.
Mae’r swydd wedi’i lleoli yn Ne Cymru ond mae trefniadau gweithio ystwyth ac o bell ar waith. Mae’r rôl yn amser llawn, tymor penodol tan 31 Mawrth 2028 (wedi’i ariannu gan y Grant Partneriaeth Lleihau Trais Difrifol). Mae ceisiadau’n cau ar 27 Mai 2026. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru.