Neidio i'r prif gynnwys

Trais yn Erbyn Menywod, Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol

Archwilio is-bynciau

Beth yw VAWDASV?

Trais yn erbyn Menywod, Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol yw ystyr VAWDASV.

Mae’n cynnwys Trais yn Erbyn Menywod (a merched), Cam-Drin Domestig, Trais a Thrais Rhywiol, Aflonyddu Rhywiol, Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod, Trais ar sail Anrhydedd, Priodas Dan Orfod, Stelcian, Masnachu mewn Pobl a mathau eraill o drais.

Amcangyfrifir bod tua 3 miliwn o ferched ar draws y DU yn profi trais, trais domestig, priodas dan orfod, stelcian, cam-fanteisio rhywiol, masnachu mewn pobl a mathau eraill o drais bob blwyddyn. Mae hyn gyfwerth â phoblogaeth Cymru.

Adroddiad yr Ysgrifennydd Cyffredinol, 2006

Mae’n bwysig nodi y gall y pob rhyw fod yn ddioddefwyr a/neu gyflawnwyr Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Mae Strategaeth 2022 i 2026 Trais yn Erbyn Menywod, Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol Cymru ar gael, a lansiwyd ym mis Mai 2022.

Gweler y Strategaeth yma

Trais yn Erbyn Menywod, Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol Crynodeb o’r Gorchmynion.

 

Podlediad Cymunedau Mwy Diogel

Roedd Cyfres 2 o’r Podlediad Cymunedau Mwy Diogel yn archwilio diogelwch menywod a merched yng Nghymru.

Gwrandewch yma

Mae Deddf Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (Deddf VAWDASV) yn rhoi dyletswydd ar y Sector Cyhoeddus i nodi a darparu cymorth arbenigol, caiff ei adnabod fel Gofyn a Gweithredu.

Mae’r Ddeddf yn creu dyletswydd gyffredinol i roi sylw i’r angen i ddileu neu leihau unrhyw ffactorau sy’n cynyddu’r risg o drais yn erbyn merched a genethod, neu sy’n gwaethygu effaith trais o’r fath ar ddioddefwyr.

Mae’r Ddeddf yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol i baratoi, cyhoeddi a gweithredu strategaethau lleol ar y cyd ar gyfer mynd i’r afael â VAWDASV (caniateir rhanbarthol) ac wedyn cymryd camau rhesymol i gyflawni’r amcanion a nodir yn y strategaeth leol. Mae hefyd dyletswydd i ymgynghori cyn cyhoeddi’r strategaeth, ac i’r strategaeth ddangos sut mae gweithio mewn partneriaeth a chydweithio yn gwella gwasanaethau i ddioddefwyr a goroeswyr. Mae angen cynnal asesiad o anghenion er mwyn nodi anghenion lleol a darpariaeth, gan gynnwys asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar gyfer gwasanaethau. 

Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn rhoi dyletswydd o ran darparu llety priodol pan na fydd unigolyn yn gallu dychwelyd i’w llety presennol heb wynebu camdriniaeth gan aelod arall o’r aelwyd honno.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi dyletswydd o ran adrodd ar gyfer diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl. Mae thema diogelu yn amlwg trwy’r Ddeddf ond mae’r wybodaeth benodol yn Rhan 7. Mae gan Gofal Cymdeithasol Cymru  ganllawiau statudol ar eu gwefan.

Mae’r Ddeddf yn rhoi cyfrifoldeb ar bawb i adrodd. Ar gyfer mudiadau a gomisiynir gan y Sector Cyhoeddus, mae’r ddyletswydd yn mynd gyda’r ddarpariaeth gwasanaeth.

Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar gael ar-lein yn: ac mae modd lawrlwytho’r Ap o: AppleAndroid.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn amlinellu rôl gyfun y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Gellir cyflawni dyletswyddau statudol trwy Gynllun Lles, a all gynnwys VAWDASV. Gall Strategaeth VAWDASV gyflawni’r Ddyletswydd Statudol a chyfrannu at ddatblygiad y Cynllun Lles lleol.

Mae Fframwaith Hyfforddiant Cenedlaethol ar VAWDASV sy’n cynnwys chwe grŵp o weithwyr proffesiynol yn y Gwasanaeth Cyhoeddus:

  • Grŵp 1 – Ymwybyddiaeth cyffredinol (E-ddysgu)
  • Grŵp 2 – Gofyn a Gweithredu
  • Grŵp 3 – Cefnogwyr Gofyn a Gweithredu
  • Grŵp 4 – Sector arbenigol
  • Grŵp 5 – Rheolwyr y sector arbenigol
  • Grŵp 6 – Arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus

Gofal Cymdeithasol Cymru sy’n cario’r deunyddiau hyfforddi ar gyfer plant ac oedolion sydd mewn perygl ar gyfer Diogelu.

Dylai’r Sector Cyhoeddus cyfan fod yn darparu hyfforddiant i’w staff fel rhan o’r Ddyletswydd, os nad ydych chi’n siŵr, siaradwch â’r adran hyfforddiant.

Dolenni Defnyddiol

Cymorth i Ferched Cymru

Cysylltu Cymorth i Ferched Cymru

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn:

0808 10800

info@livefearfreehelpline.wales

Mae adnodd sgwrsio byw ar gael 24 awr y dydd.

Gallant eich cynorthwyo trwy gyfrwng y Gymraeg, y Saesneg ac unrhyw iaith arall gan ddefnyddio LanguageLine.

Gall rhai sy’n defnyddio ffôn testun gysylltu â ni trwy Type Talk ar 18001 0808 80 10 800.

Gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn trwy neges destun 24/7 ar 078600 77 333.

Cymru Ddiogelach

Ewch i’r Wefan

Ap WalkSafe

WalkSafe

Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch, Iawn, i annog dynion 18-34 oed yng Nghymru i ddysgu am drais ar sail rhywedd. Nod y prosiect yn y pen draw yw creu cymdeithas iawn y gallwn ni i gyd ffynnu ynddi.

Iawn

Cyfraith Clare

Mae Cyfraith Clare, a elwir hefyd yn Gynllun Datgelu Trais Domestig (DVDS) yn bolisi heddlu sy’n rhoi’r hawl i bobl wybod a oes gan eu partner presennol neu gyn-bartner unrhyw hanes blaenorol o drais neu gam-drin.

Clare’s Law