Mae Deddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003 yn gwahardd FGM.
Gwnaeth Deddf Troseddu Difrifol 2015 ddiwygio Deddf 2003 er mwyn cynnwys darpariaethau newydd i ymestyn awdurdodaeth alltiriogaethol ar gyfer FGM, darparu anhysbysrwydd i ddioddefwyr FGM, creu trosedd newydd sef methu â diogelu geneth rhag FGM, cyflwyno Gorchmynion Amddiffyn rhag FGM, cyflwyno dyletswydd adrodd gorfodol sy’n ei gwneud yn ofynnol i weithwyr proffesiynol rheoledig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol roi gwybod i’r heddlu am achosion hysbys o FGM ymhlith genethod dan 18 oed.
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn darparu deddfwriaeth ddiogelu i oedolion a phlant.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn amlinellu rôl gyfun y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Gellir cyflawni dyletswyddau statudol trwy Gynllun Lles, a all gynnwys VAWDASV. Gall Strategaeth VAWDASV gyflawni’r Ddyletswydd Statudol a chyfrannu at ddatblygiad y Cynllun Lles lleol.
Yn ogystal â’r canlynol:
- Deddf Plant 2004 (Cymru a Lloegr)
- Deddf Hawliau Dynol 1998
- Y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol
- Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (mae’r DU wedi cadarnhau)
- Adran 47 Deddf Plant 1989
- Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002
- Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar ddileu pob math o Wahaniaethu yn erbyn Merched