- Cafodd Deddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997 ei diwygio gan Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 i gynnwys dau drosedd penodol o stelcian trwy gynnwys adran 2A a 4A. Mae’n bosibl y bydd unigolyn a gaiff ei ddyfarnu’n euog dan y naill Ddeddf neu’r llall yn destun gorchymyn atal a fydd yn gwahardd y diffynnydd rhag gwneud unrhyw beth a gaiff ei ddisgrifio yn y gorchymyn. Gellir gwneud y gorchymyn yn ychwanegol at ddedfryd o garchar neu ddedfryd arall. Gall y gorchymyn fod yn ddefnyddiol i atal stelcian ac aflonyddu parhaus gan ddiffynyddion / cyflawnwyr.
- Deddf Diogelu Rhyddidau 2012, caiff troseddau stelcian sydd hefyd yn ymwneud â hil a chrefydd eu cwmpasu dan Ran 11 atodlen 9.
- Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998, mae Adran 32 Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 yn darparu ar gyfer dau drosedd aflonyddu sy’n gysylltiedig â hil neu grefydd.
- Mae Deddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004 yn ymestyn argaeledd gorchmynion atal i bob trosedd, gan roi pŵer i’r llys wneud gorchymyn atal hyd yn oed pan fydd unigolyn wedi’i gael yn ddieuog, er mwyn diogelu unigolyn rhag stelcian neu aflonyddu parhaus gan y diffynnydd.
- Mae Deddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 yn nodi’r gofynion ar gyfer ymddygiad.
- Mae Deddf Cyfraith Teulu 1996 Rhan IV yn caniatáu i ddioddefwr wneud cais am waharddeb trwy Lys Sirol dan Ddeddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997. Gall gwaharddeb wahardd y cyflawnwr rhag gwneud pethau penodol pan na fydd yr heddlu’n cyhuddo’r unigolyn.
- Cyflwynwyd Gorchmynion Amddiffyn rhag Stelcian ym mis Ionawr 2020. Maen nhw’n caniatáu i lysoedd yng Nghymru a Lloegr symud yn gynt i wahardd stelcwyr rhag cysylltu â dioddefwyr neu fynd i’w cartref, man gwaith neu fan astudio. Bydd hyn yn rhoi rhagor o amser i ddioddefwyr adfer o’u profiad. Yn ogystal â gwahardd cyflawnwyr rhag mynd at eu dioddefwyr, neu gysylltu â nhw, gall y Gorchmynion orfodi stelcwyr i geisio help proffesiynol hefyd.
Gellir gwneud cais am Orchmynion Gwarchod Rhag Stelcian a gyflwynir o dan y Ddeddf Gwarchod Rhag Stelcian 2019 ar unrhyw adeg nid yn unig cyn gollfarn i’r llys gan yr heddlu.