Neidio i'r prif gynnwys

Porth Atal Trais Cymru

Porth Atal Trais Cymru

Lansiwyd Porth Atal Trais Cymru gan Uned Atal Trais (UAT) Cymru ar 23 Mawrth 2023.

Y Porth yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru, ac mae wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â Sefydliad Iechyd Cyhoeddus, Prifysgol John Moores Lerpwl.

Mae’r llwyfan digidol yn cynnwys data dienw ar drais yng Nghymru, ac yn galluogi defnyddwyr i gydgasglu a defnyddio gwahanol ffynonellau data drwy ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau gan gynnwys graffiau, siartiau, tablau, adroddiadau a mapiau rhyngweithiol o ardaloedd lleol a chenedlaethol.

Mae gan y Porth y gallu i wella cydweithrediad amlasiantaethol i atal trais, drwy alluogi defnyddwyr i gael mynediad at ddata lleol a chenedlaethol o sawl ffynhonnell a’u cymharu, gan gynnwys data ar iechyd a’r heddlu, i lywio arferion gweithredol a strategol.

Darganfyddwch fwy yma.