Neidio i'r prif gynnwys

Ennillwyr y categori Troseddu Cyfundrefnol

Ennillwyr y categori Troseddu Cyfundrefnol

Mae troseddu cyfundrefnol yn fygythiad diogelwch cenedlaethol sylweddol a sefydledig, ac mae’n cynnwys: smyglo a dosbarthu cyffuriau a gynnau; cam-drin plant yn rhywiol drwy fasnachu mewn plant; smyglo a masnachu mewn pobl ar draws ffiniau; camfanteisio ar unigolion; twyll ar sail ddiwydiannol; ymosodiadau meddalwedd wystlo; a gwyngalchu arian brwnt, sydd oll yn achosi niwed i ddioddefwyr, unigolion a chymunedau.

Enillydd: Ymgyrch Bridport ac Ymgyrch Goutweed – Canol Tref Castell-nedd, Tîm Plismona yn y Gymdogaeth Castell-nedda Phartneriaeth Castell-nedd Port Talbot Mwy Diogel.

Mae’r prosiect wedi’i ddewis oherwydd ei effaith ar ddatgymalu llinell gyffuriau, canfod achosion o gamfanteisio ar blant bach (Ymgyrch Bridport) a chreu systemau cadarn i’w hatal nhw rhag cael eu hail-sefydlu drwy weithio mewn partneriaeth yn well ac yn amlach (Ymgyrch Goutweed). Nodwyd ymddygiad gwrthgymdeithasol pobl ifanc a gweithgareddau troseddol, gyda pherygl ychwanegol bod yr Heddlu wedi derbyn gwybodaeth am bobl ifanc yn cario cyllyll a chymdeithion yn rhan o weithgareddau grŵp troseddu cyfundrefnol. Datgymalwyd y llinell gyffuriau yn gyfan gwbl a roddwyd systemau ar waith i atal pethau rhag ailgychwyn. Gwelwyd gostyngiad yng nghyfraddau troseddu canol y dref, gyda chanran y troseddau a roddwyd gwybod amdanynt yn 15.9% yn llai. Gwelwyd y gostyngiad mwyaf yng nghanran y troseddau difrod troseddol – gostyngiad o 47.2%. Cafwyd gostyngiad o 20.6% mewn byrgleriaethau masnachol a gostyngiad o 11.8% mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Un peth cadarnhaol yn sgil hyn yw’r ffaith bod ganddynt broses gydgysylltiedig a chadarn yn ei lle yn barod i ddelio gyda materion tebyg, a systemau diwygiedig a gweithdrefnau newydd sy’n sicrhau eu bod yn cael eu hystyried mewn ffordd holistaidd os yw troseddu cyfundrefnol yn dod yn broblem eto.