Neidio i'r prif gynnwys

Cyfres Seminar Gwanwyn/ Haf 2024: Atal Hunanladdiad

Cyfres Seminar Gwanwyn/ Haf 2024: Atal Hunanladdiad

Bydd y sesiwn hon yn rhoi dealltwriaeth o waith y Rhaglen Genedlaethol Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed, a reolir o fewn Gweithrediaeth GIG Cymru. Bydd hyn yn cwmpasu data a gwybodaeth ar gyfer Cymru; ffactorau a all gyfrannu at hunanladdiad a hunan-niwed; meysydd blaenoriaeth; a’r ffrydiau gwaith a’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu a’u datblygu i leihau hunanladdiad a hunan-niwed. Bydd hyn yn rhoi cefndir i’r amcanion strategol a nodir yn y strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niwed drafft, , sy’n destun ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd (yn cau ar 11 Mehefin).

Mae’r seminar hon yn rhan o Gyfres Seminar Gwanwyn/ Haf 2024 Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru.

I gofrestru eich presenoldeb cliciwch yma.