Neidio i'r prif gynnwys

Yn fwy diogel ar 20mya

Yn fwy diogel ar 20mya: Beth am edrych allan am ein gilydd

Mae cyfyngiadau 20mya yn cael eu cyflwyno mewn ardaloedd ledled Cymru lle mae pobl yn byw, gweithio, dysgu a chwarae, o 17 Medi 2023. #BarodAm20mya

Bydd hyn yn golygu bod Cymru’n un o wledydd cyntaf y byd i gael terfyn diofyn o 20mya lle mae pobl yn byw, er mwyn cadw ein cymunedau’n fwy diogel a gwella ansawdd bywyd.

I gael gwybod mwy ewch i dudalen yr ymgyrch, darllenwch ddatganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru, ac ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru.