Neidio i'r prif gynnwys

Pobl ifanc ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol mewn hen glwb nos adfeiliedig

Pobl ifanc ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol mewn hen glwb nos adfeiliedig a’r ardal gyfagos mewn Awdurdod Lleol yng Nghymru

Roedd clwb nos wedi cau a’r adeilad yn adfeilio. Gan fod yr adeilad mewn lleoliad tawel, hygyrch ac agored, gyda lloches a heb oleuadau, roedd cynnydd wedi bod mewn adroddiadau yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y lleoliad.

Roedd yr ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cynnwys tanau bwriadol, yfed dan oed, delio cyffuriau, grwpiau mawr o bobl ifanc yn codi ofn, a difrod i’r clwb nos a’r ardaloedd/ adeiladau cyfagos.

Roedd hyn wedi arwain at densiwn yn y gymuned a rhagor o alw am y Tîm Plismona yn y Gymdogaeth ac asiantaethau partner lleol eraill, gan gynnwys y Gwasanaeth Tân.

Rhoddwyd cynllun ar waith yn defnyddio’r fethodoleg datrys problemau OSARA (amcan, sganio, dadansoddi, ymateb ac asesu) gan yr Heddlu a defnyddiwyd dull amlasiantaeth i fynd i’r afael â’r problemau yn yr ardal.

Rhoddwyd gwybod i asiantaethau ac adrannau amrywiol gan gynnwys WCADA (Canolfan Gweithredu ar Ddibyniaeth a Chaethiwed Cymru), Gwasanaeth Tân ac Achub, Partneriaethau Alcohol Cymunedol, yr Heddlu, Gorfodaeth Gwastraff yr Awdurdod Lleol, Trwyddedu, Safonau Masnach, perchnogion busnesau lleol a swyddogion y cyngor lleol am y problemau ac mae’r rhain wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau yn y lleoliad a lleihau’r tensiwn a’r galw yn y gymuned.

Mae’r gwaith amlasiantaeth a gwblhawyd i fynd i’r afael â’r broblem yn cynnwys:

  • Penwythnos o weithredu gydag asiantaethau partner i ymgysylltu gyda phobl ifanc ac atal y problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol.
  • Ymwelodd Swyddog Addysg Tanau Bwriadol ag ysgolion lleol i gynnal gwersi gyda’r grwpiau oedran a nodwyd.
  • Cynhaliwyd patrolau gwelededd uchel wedi’u targedu ar yr adegau penodol a nodwyd yn yr adroddiadau.
  • Rhoddwyd posteri ymddygiad gwrthgymdeithasol a thannau bwriadol mewn lleoliadau allweddol.
  • Aeth yr Awdurdod Lleol i’r afael â’r graffiti yn yr ardal.
  • Ymdriniodd Gorfodaeth Gwastraff â’r sbwriel a’r fermin posibl yn y lleoliad gan ystyried cymryd camau gorfodi.
  • Mynychodd y Tîm Plismona yn y Gymdogaeth lleol, y Swyddog Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Ymgynghorydd Gostwng Troseddau Tactegol a’r Swyddog Lleihau Tannau Bwriadol y lleoliad i siarad gyda’r perchennog, nodi risgiau a darparu cyngor gwella diogelwch/ atal troseddu. Ymgrymodd y perchennog busnes â gwaith clirio’r tir a’r gwelliannau a awgrymwyd.
  • Mynychodd Swyddogion Tenantiaethau siopau lleol i ail-addysgu staff am werthu alcohol i bobl dan oed a’u hatgoffa i herio oedolion ifanc gyda phobl ifanc.
  • Cymerodd Uwch Swyddogion Rheoli o’r Ysgol Gyfun leol ran mewn patrôl gyda Swyddog Cyswllt yr Heddlu ag Ysgolion, lle nodwyd ac ymgysylltwyd â phobl ifanc.

Mae perchnogion yr adeilad wedi trawsnewid y safle, sydd bellach yn cael ei brydlesu i tenant newydd.  Mae’r adeilad ar agor i bob oedran, saith diwrnod yr wythnos, ac mae bellach yn cynnig rhywle diogel i bobl ifanc fynd a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n eu hintegreiddio gyda’r gymuned ehangach.

Yn sgil defnydd a hygyrchedd newydd yr adeilad, nid oes unrhyw broblemau mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi’u nodi yn y lleoliad.

Mae’r adeilad a’r tiroedd hefyd yn cael eu diogelu gan giatiau wedi’u cloi ym mhob mynedfa, sydd wedi rhwystro’r bobl ifanc rhag ymweld ac ymgynnull yn yr ardal.

 


Adborth

O ganlyniad i’r gwaith partneriaeth, mae’r ymateb gan y cyhoedd wedi bod yn gadarnhaol. Casglwyd sylwadau ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol yr heddlu a phartneriaid, ar grŵp Facebook lleol, ac yn y gymuned yn ystod patrolau Swyddogion yn yr ardal.

“Mae hon yn enghraifft wych o berchnogaeth leol gan Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu o broblem gymunedol. Da iawn chi.”

“Gobeithio y bydd dod o hyd i denant newydd ar gyfer yr adeilad yn golygu na fydd unrhyw broblemau pellach yn codi yn y lleoliad, oherwydd y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr, oriau agor hwyr a gwell gwaith cynnal a chadw.”


Gwersi a ddysgwyd

Nodwyd pwysigrwydd cysylltiadau da rhwng budd-ddeiliaid a’r gymuned wrth fynd i’r afael â’r problemau yn yr ardal.  Roedd yn amlwg na fyddai un asiantaeth wedi gallu mynd i’r afael â’r broblem hon ar ei phen ei hun; roedd y dull partneriaeth yn allweddol.

Drwy roi gwybod i berchennog y safle am yr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a’r troseddau, ac amlygu eu cyfrifoldeb mewn perthynas â’r mater, penderfynwyd y dylid ailwampio a phrydlesu’r adeilad.  Roedd risg posibl y byddai gadael i’r adeilad adfeilio arwain at gynnydd mewn problemau yn yr ardal.

Mae clirio’r ardal a’r adeilad wedi gwneud y lleoliad yn llai deniadol i’r bobl ifanc.

Drwy’r ymweliadau â’r ysgol a’r siopau lleol, amlygwyd y broblem o fewn y gymuned a rhannwyd cynghorion â dinasyddion i’w helpu i fynd i’r afael â’r problemau.

Yn y dyfodol, bydd yn bwysig cyfathrebu â thenantiaid newydd yr adeilad i sicrhau nad yw’r problemau hyn yn codi eto.