Pam fod Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Mwy Diogel yn cael ei chynnal?
Mae Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru yn cynnal ei Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Mwy Diogel gyntaf erioed i Gymru. Y Rhwydwaith yw’r llais strategol sy’n hyrwyddo ac yn cysylltu pawb sy’n ymwneud â diogelwch cymunedol yng Nghymru fel y gallant greu cymunedau mwy diogel – yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Mae’r Wythnos Ymwybyddiaeth yn gyfle i godi proffil gwaith diogelwch cymunedol ac amlygu y gwaith arloesol sy’n digwydd ledled Cymru.
Edrychwn ymlaen at ddathlu’r gwaith sy’n cael ei wneud i wneud ein cymunedau’n fwy diogel ledled Cymru gyda chi!
Digwyddiadau
Dydd Llun 18 Medi
Ar ddechrau’r Wythnos, lansiwyd ein ffilm Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru gyntaf gyda’r Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru, i dynnu sylw at bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth i hyrwyddo cymunedau diogel, cryf a hyderus, a sut mae’r Rhwydwaith yn amhrisiadwy i gyflawni hyn. Dilynwch y ddolen isod i weld y ffilm.
Ffilm gyda’r Prif Weinidog
Dydd Mawrth 19 Medi
Sgwrs Coffi – Newid Sy’n Para gyda Chymorth i Ferched Cymru
Cynhaliom sesiwn Sgwrs Coffi bore gyda Chymorth i Ferched Cymru i dynnu sylw at y model Newid Sy’n Para. Roedd hon yn sesiwn ryngweithiol lle gwnaethom annog y cynrychiolwyr i ofyn cwestiynau a rhannu gwybodaeth leol ac enghreifftiau o arfer da. Cliciwch ar y ddolen isod i weld recordiad o’r sesiwn.
Recordiad Sgwrs Coffi
Cinio & Dysgu – Ymgyrchoedd ‘Iawn’ ac ‘She Is Not Your Rehab’
Cynhaliom sesiwn Cinio & Dysgu gyda Llywodraeth Cymru i edrych ar yr ymgyrch Iawn a Plan International UK/ Cydweithredfa Hawliau Merched Cymru i gyflwyno’r ymweliad ‘She Is Not Your Rehab’ â Chymru o Seland Newydd ar ddiwedd y flwyddyn. Edrychwch ar y recordiad o’r sesiwn isod i ddarganfod mwy am yr ymgyrchoedd a sut y gallwch chi a’ch sefydliad gymryd rhan a buddio.
Recordiad Cinio & Dysgu
Dydd Mercher 20 Medi
Cinio & Dysgu – Adolygiad Diogelu Unedig Sengl
Ar ddydd Mercher, cynhaliom sesiwn Cinio & Dysgu gyda’r tîm Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (SUSR), i rannu’r cynnydd hyd yma a darparu diweddariad yn dilyn ein seminar ym mis Rhagfyr 2022. Edrychwch ar y recordiad o’r sesiwn isod i ddarganfod mwy am yr hyn sydd i ddod gyda’r prosiect arloesol hwn.
Recordiad Cinio & Dysgu
Dydd Iau 21 Medi
Cinio & Dysgu – Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yng Nghymru
Roedd y sesiwn Cinio & Dysgu yma yn cynnwys cyflwyniadau gan Gadeirydd Rhwydwaith Ymarferwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (YG) Cymru Gyfan a Arweinydd Heddlu De Cymru ar gyfer y Peilot Mannau Poeth YG. Edrychwch ar y recordiad i ddarganfod mwy am y Rhwydwaith Ymarferwyr, themâu a chanlyniadau allweddol y Gynhadledd ym mis Gorffennaf, blaengynllunio, a meysydd “man problemus” ymddygiad gwrthgymdeithasol ledled Cymru a sut mae hyn yn berthnasol i Drais Difrifol.
Recordiad Cinio & Dysgu
Dydd Gwener 22 Medi
Lansiad Meddal Porth Aelodau
Ar ddiwrnod olaf yr wythnos, cynhelir Lansiad Meddal o Borth Aelodau Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru, lle gallai partneriaid ddarganfod mwy am y Porth a sut i ddod yn aelod o’r Rhwydwaith. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn aelod, cysylltwch â ni.