Neidio i'r prif gynnwys

Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru Mehefin 2026

Bu Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru yn cyfarfod ar 2 Mehefin, ac roedd y pynciau dan sylw’n cynnwys etholiadau’r Senedd, diwygiadau deddfwriaethol newydd, a blaenoriaethau ymarferwyr rheng flaen. Cafwyd trafodaethau ar ymrwymiad cryf i weithio mewn partneriaeth ledled Cymru, ynghyd â chydnabyddiaeth o gymhlethdod cynyddol yn yr amgylchedd gweithredol, yn enwedig mewn cysylltiad â phwysau ariannol, diwygio systemau, a thensiynau cynyddol mewn cymunedau.

Crynodeb o’r Trafodaethau

Gwarineb mewn Bywyd Cyhoeddus ac Etholiadau

Bu’r aelodau yn edrych yn ôl ar etholiadau diweddar y Senedd. Er bod partneriaid plismona wedi adrodd llai o broblemau na’r disgwyl, mae yna gefndir pryderus yn parhau o gamdriniaeth, niwed ar-lein, a hyder yn dirywio ymysg darpar ymgeiswyr.

Mae gwaith yn mynd rhagddo yn y pedair gwlad i hyrwyddo ymgysylltu democrataidd iach, yn cynnwys canllawiau i Gynghorwyr ac ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth y cyhoedd.  Mynegwyd pryderon hefyd am rôl gynyddol Deallusrwydd Artiffisial, a gwybodaeth anghywir yn dylanwadu ar anrhefn gyhoeddus ac o bosibl yn tanseilio prosesau democrataidd. 

Datblygiadau Deddfwriaethol a Pholisi

Derbyniodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am amrywiaeth o ddiwygiadau sylweddol, yn cynnwys:

  • Papur Gwyn ar Ddiwygio Plismona a chynigion sy’n effeithio ar lywodraethu, atebolrwydd, a chyflawni lleol
  • Gweithredu’r Ddeddf Dedfrydu, yn cynnwys mesurau rhyddhau’n gynnar a phwysau cysylltiedig ar wasanaethau
  • Datblygiadau cyfiawnder ieuenctid a gwasanaeth prawf, yn cynnwys datganoli pellach posibl a threfniadau partneriaeth newydd
  • Adolygiad o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn asesu cyfraniad a gwerth rolau plismona cymunedol ledled Cymru

Tynnodd aelodau sylw at faint y newid sydd ar waith gan bwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod diwygiadau yn adlewyrchu’r cyd-destun Cymreig, yn enwedig er mwyn amddiffyn partneriaethau lleol, gweithgarwch atal a gwasanaethau yn y gymuned.

Arferion Newydd a Modelau Cyflawni

Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf am:

  • Baneli partneriaeth ieuenctid a modelau atal, arddangos canlyniadau cynnar cadarnhaol wrth adnabod a chefnogi pobl ifanc diamddiffyn
  • Llysoedd goruchwylio dwys, gyda chynnig Cymreig cryf yn cael ei gyflwyno i gefnogi carfan benodol o ferched yn Abertawe. Mae’r cynnig yn adlewyrchu dadansoddiad o ddata Cymru gyfan ac mae wedi cael cefnogaeth gan Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd ledled Cymru, a bwriad y dysgu yw llywio dulliau ehangach.

Mae’r mentrau yma’n tynnu sylw at arloesedd parhaus ledled Cymru ond maent yn atgyfnerthu’r angen am fuddsoddiad a chydlyniad parhaus. 

Lleisiau o’r Rheng Flaen – Prif Gasgliadau

Ystyriodd y Bwrdd gasgliadau o arolwg ymarferwyr Diogelwch Cymunedol a nododd:

  • Prif faterion: trais difrifol, ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamddefnyddio sylweddau
  • Grwpiau sydd wedi’u heffeithio fwyaf: plant a phobl ifanc, oedolion diamddiffyn, a merched a genethod
  • Heriau’r system: cyllid tameidiog, prosesau beichus a chapasiti Partneriaethau Diogelwch Cymunedol cyfyngedig

Roedd yna gonsensws cryf bod y casgliadau’n cyd-fynd â phwysau ehangach ar y system, a’u bod yn darparu sylfaen tystiolaeth gadarn i lywio polisi a thrafodaethau diwygio. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at alwadau cyson gan ymarferwyr am gyllid cynaliadwy a ffocws cryfach ar ymyrraeth gynnar ac atal. Cytunodd y Bwrdd i ddefnyddio’r adroddiad i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU drwy ohebiaeth ffurfiol. 

Cydlyniant Cymunedol a Risgiau Presennol

Tynnodd aelodau sylw at bryderon cynyddol o ran:

  • Cynnydd mewn trosedd casineb (yn cynnwys gwrth-semitiaeth a thensiynau eraill sy’n seiliedig ar grefydd)
  • Effaith digwyddiadau byd-eang ar gymunedau lleol
  • Risgiau tymhorol sy’n gysylltiedig â phwysau’r haf ac effeithiau costau byw

Mae partneriaid yn gweithio gyda’r Swyddfa Gartref a rhwydweithiau lleol i fonitro ac ymateb i risgiau newydd, gyda phwyslais ar barodrwydd ac atal. 

Camau Gweithredu a’r Camau Nesaf

Parhau i fonitro risgiau cydlyniant cymunedol a rhannu gwybodaeth ac arferion gorau

Gohebiaeth ffurfiol gan y Bwrdd i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn rhannu tystiolaeth reng flaen a dylanwadau ar benderfyniadau polisi

Parhau â gwaith traws-sector ar warineb mewn bywyd cyhoeddus, yn cynnwys cyfarfod dilynol cyn etholiadau yn y dyfodol

Ymgysylltu parhaus â diwygiadau cenedlaethol, gan sicrhau bod safbwyntiau Cymreig yn cael eu hadlewyrchu mewn penderfyniadau

Datblygu modelau a chanllawiau diogelwch cymunedol ymhellach i gefnogi effeithiolrwydd a chysondeb Partneriaethau Diogelwch Cymunedol ar draws Cymru