Neidio i'r prif gynnwys

Ennillwyr y categori Troseddu a Chyfiawnder

Troseddu a chyfiawnder sy’n cynnwys y system Cyfiawnder Troseddol ochr yn ochr â rheoli troseddwyr yn gyffredinol. Cyd-enillwyr: Tîm Ymateb Cyntaf ac Ymchwilio Gorfodi’r Gyfraith Heddlu Gogledd Cymru a Phrosiect Tai Rheoli Troseddwyr Integredig Dyfed Powys. Cyd-enillwyr: Tîm Ymateb Cyntaf ac Ymchwilio Gorfodi’r Gyfraith Heddlu Gogledd Cymru ar gyfer Ymgyrch Blue Spinel. Ymchwiliad i gyfres … Parhad

Ennillwyr y categori Troseddu Cyfundrefnol

Mae troseddu cyfundrefnol yn fygythiad diogelwch cenedlaethol sylweddol a sefydledig, ac mae’n cynnwys: smyglo a dosbarthu cyffuriau a gynnau; cam-drin plant yn rhywiol drwy fasnachu mewn plant; smyglo a masnachu mewn pobl ar draws ffiniau; camfanteisio ar unigolion; twyll ar sail ddiwydiannol; ymosodiadau meddalwedd wystlo; a gwyngalchu arian brwnt, sydd oll yn achosi niwed i … Parhad

Ennillwyr y categori Ymyrraeth Gynnar

Mae ymyrraeth gynnar yn ceisio mynd i’r afael â’r materion a godwyd pan leisiwyd pryder, er mwyn ymdrin â’r sefyllfa y mae unigolyn yn ei hwynebu drwy edrych ar wraidd y broblem. Enillydd: Media Academy Cymru, sy’n cefnogi plant a phobl ifanc i wneud dewisiadau gwell a mwy diogel. Mae Media Academy Cymru yn cynnal … Parhad

Ennillwyr y categori Diogelwch y Cyhoedd

Mae diogelwch y cyhoedd yn cynnwys diogelwch tân, llosgi bwriadol, diogelwch ar y ffordd, diogelwch yn y cartref a’r awyr agored (yn cynnwys diogelwch dŵr). Enillydd: Grŵp Diogelwch y Cyhoedd Llanfair-ym-Muallt dan arweiniad Cyngor Sir Powys. Mae’r grŵp yn canolbwyntio ar chwe phrif faes – iechyd a lles, cludiant ac isadeiledd, eiddo trwyddedig, mannau agored, … Parhad

Ennillwyr y categori Atal Troseddu

Mae Rhwydwaith Atal Troseddu’r Undeb Ewropeaidd yn diffinio Atal Troseddu fel “gweithgareddau sy’n dderbyniol yn foesegol ac yn seiliedig ar dystiolaeth wedi’u targedu i leihau’r risg o droseddu a’r canlyniadau niweidiol gyda’r nod o weithio tuag at wella ansawdd bywyd a diogelwch unigolion, grwpiau a chymunedau”. Enillydd: Dangos y Drws i Drosedd, Heddlu Gogledd Cymru … Parhad

Ennillwyr y categori Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Yn y gyfraith diffinnir ymddygiad gwrthgymdeithasol fel “ymddygiad gan berson sy’n achosi, neu’n debygol o achosi, aflonyddwch, braw neu drallod i bobl nad ydynt o’r un aelwyd â’r person hwnnw.” Gall digwyddiadau ymddangos yn rhai bach, amhwysig, dibwys a gwneud i bobl amau eu hunain. Dydi pob achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol ddim yn drosedd, gall … Parhad

Enillwyr y categori Trais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Mae’n cynnwys trais yn erbyn merched a genethod, cam-drin domestig, trais a thrais rhywiol, aflonyddu rhywiol, anffurfio organau cenhedlu benywod, trais ar sail anrhydedd, priodas dan orfod, stelcian, masnachu mewn pobl a mathau eraill o drais. Mae’n bwysig nodi y gall y pob rhyw fod yn ddioddefwyr a/neu’n gyflawnwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol. Enillydd: … Parhad

Enillwyr y Categori Diogelu

Mae diogelu yn ymwneud ag amddiffyn pobl o bob ffurf o niwed a chamdriniaeth. Enillydd: Tîm Troseddau Economaidd Dyfed Powys o Heddlu Dyfed Powys, sy’n rheoli pob agwedd ar droseddau economaidd, yn cynnwys twyll, seiberdroseddau, gwyngalchu arian a ffugio arian. Gan reoli bob digwyddiad o dwyll a seiberdroseddu a roddir gwybod amdano i’r heddlu, mae’r … Parhad

Enillwyr y Categori Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio

Caethwasiaeth fodern yw camfanteisio ar bobl yn anghyfreithlon er budd personol neu fasnachol. Mae’n ymdrin ag ystod eang o gamdriniaeth a chamfanteisio gan gynnwys camfanteisio’n rhywiol, caethwasanaeth domestig, llafur dan orfod, camfanteisio troseddol a chynaeafu organau. Mae’r Swyddfa Gartref wedi disgrifio caethwasiaeth fodern fel “trosedd ddifrifol a chreulon lle bydd pobl yn cael eu trin … Parhad

Enillwyr y Categori Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Chydlyniant

Mae hyrwyddo cydraddoldeb yn hollbwysig i greu cydlyniant cymunedol. Weithiau caiff cydlyniant lleol ei danseilio os caiff grwpiau gwahanol brofiadau neu ganlyniadau gwahanol i eraill. Mae’n bwysig mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a materion cysylltiedig, fel maethu perthynas dda ar draws a rhwng cymunedau a chefnogi ymdrechion i atal eithafiaeth a mynd i’r afael â … Parhad