Heddiw rydym yn cyhoeddi pennod newydd sbon yng Nghyfres 2 o’r Podlediad Cymunedau Mwy Diogel, Cefnogi dioddefwyr a chymunedau yng ngogledd Cymru.
Ein gwestai’r wythnos hon ar gyfer y bennod Gymraeg yw Rhian Rees Roberts, Swyddog Craffu a Pholisi, a Stephen Hughes, y Prif Swyddog Gweithredol, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru; ac ar gyfer y bennod Saesneg, Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.
Yn y bennod hon, rydyn ni’n edrych ar yr hyn sy’n cael ei wneud yng ngogledd Cymru i gefnogi diogelwch menywod a merched.
Cliciwch yma i wrando ar bob pennod Cymraeg.
Cliciwch yma i wrando ar bob pennod Saesneg.
![](https://safercommunities.wales/wp-content/uploads/2022/11/Podcast-Cover_Bilingual-1024x1024.png)