Neidio i'r prif gynnwys

Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol Allweddol yng Nghymru

Archwilio is-bynciau

Beth yw Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol Allweddol yng Nghymru?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi nifer o strategaethau cydraddoldeb a chynlluniau gweithredu sy’n croestorri. Mae’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24 yn amlinellu nodau hirdymor Llywodraeth Cymru o ran mynd i’r afael â chydraddoldeb, ond hefyd yn cynnwys Amcanion Cydraddoldeb penodol a gaiff eu cyflawni dros hyd y cynllun.

Yn fwy diweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu cynlluniau gweithredu wedi’u targedu sy’n ymateb i nifer o anghydraddoldebau a heriau uniongyrchol a amlygwyd gan bandemig Covid-19.

Mae yna ddau Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb mewn drafft ar hyn o bryd fydd yn dod yn rhan o ofynion Llywodraeth Cymru pan fydd y camau ymgynghori wedi eu cwblhau.  Nod y ddau gynllun yw taclo anghydraddoldebau, herio gwahaniaethu a chreu cymdeithas ble mae’n ddiogel i bobl fyw a charu yn agored a heb ofn oherwydd pwy ydyn nhw.

Y cyntaf yw’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hil (cyfeirir ato weithiau fel REAP). Disgwylir i hyn gyflwyno gofynion ar sector cyhoeddus datganoledig ac i gael ei ystyried gan yr elfennau nad ydynt wedi eu datganoli. Disgwylir y cynllun terfynol erbyn diwedd 2021.  Cafodd ymateb i’r ymgynghoriad ei gyflwyno gan Rwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru. Unwaith mae’r cynllun wedi’i gwblhau bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru gyda’r disgwyliadau ar gyfer sefydliadau partner.

Yr ail yw’r Cynllun Gweithredu LGBTQ+  yr ymgynghorir arno tan Hydref 2021.  Bydd ymateb yn cael ei gyflwyno gan Rwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru. Unwaith mae’r cynllun wedi’i gwblhau bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru gyda’r disgwyliadau ar gyfer sefydliadau partner.

Mae’n bosibl y disgwylir mwy o gynlluniau gweithredu wedi eu cysylltu i’r nodwedd a ddiogelir penodol yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.  Mae’n bwysig cofio tra bod y cynlluniau yn unigol o amgylch nodwedd benodol, mae’n debyg ar gyfer rhai unigolion y bydd mwy nag un cynllun yn berthnasol oherwydd nifer o nodweddion gwahanol.

  • Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diogelu pobl sydd â “nodweddion a ddiogelir”: hil, rhyw, anabledd, oedran, ailbennu rhywedd, crefydd neu gred, priodas a phartneriaeth sifil, a beichiogrwydd a mamolaeth.
  • Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi cyflwyno 7 nod lles sy’n cynnwys: Cymru mwy cyfartal; Cymru gyda chymunedau cydlynol, Cymru iachach a Chymru gwydn.

Gweler hyfforddiant o dan Cydraddoldebau, Cynhwysiant a Chydlyniant a Throsedd Casineb.

Bydd unrhyw hyfforddiant neu ymwybyddiaeth o dan bob un o’r cynlluniau wedi eu hychwanegu yma.


Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Os ydych wedi bod yn dyst neu’n ddioddefwr o drosedd dylech roi gwybod i’r Heddlu. Ffoniwch 101 neu ei riportio ar-lein yn dibynnu ar eich rhanbarth o Gymru – Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu Dyfed Powys , Heddlu Gwent  neu Heddlu Gogledd Cymru. Mewn achos o argyfwng ffoniwch 999.

Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw, defnyddiwch wasanaeth ffôn testun yr Heddlu 18000 neu anfonwch neges testun at 999 os ydych wedi cofrestru o flaen llaw gyda’r gwasanaeth SMS brys.

Os oes gennych wybodaeth am drosedd ac yn dymuno bod yn anhysbys, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers ar 0800 555 111 neu ar-lein.

Os ydych wedi cael eich effeithio gan drosedd, gallwch gael mynediad i gefnogaeth gan Cefnogaeth i Ddioddefwyr, yn cynnwys trwy eu llinell gymorth 24/7 cenedlaethol am ddim ar 08 08 16 89 111, neu gael cymorth ar-lein.