Neidio i'r prif gynnwys

Cyflwyniad i’r Rhwydweithiau Partner

Mae Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru’n gweithio gyda nifer o grwpiau, Byrddau a Rhwydweithiau gwahanol. Mae’r pedwar grŵp canlynol yn cydweithio gyda ni, rydym yn darparu ysgrifenyddiaeth (i 3 ohonynt) ac yn cynnig mathau eraill o gefnogaeth iddynt. Hefyd, mae cyswllt uniongyrchol rhwng dau o’r grwpiau a rhaglen waith Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru.

Y Rhwydweithiau Partner

Cadeirir y Rhwydwaith Ymarferwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol gan ymarferwr o Gwent Mwy Diogel, ac mae cysylltiad uniongyrchol rhwng y rhwydwaith a blaenoriaeth 4 ar gyfer y Bwrdd. Mae’n cyfarfod ddwy neu dair gwaith y flwyddyn ac mae ar agor i Ymarferwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol o Awdurdodau Lleol, yr Heddlu, Tai, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a’r Trydydd Sector.

Mae’r Cylch Gorchwyl yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Mae ar gael yma fel PDF (Saesneg yn unig) nes y bydd yr adolygiad wedi cael ei gwblhau.

Cadeirir WDAIIN gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys, ac mae cyswllt uniongyrchol rhwng y rhwydwaith a blaenoriaeth 3 ar gyfer y Bwrdd. Mae’n cyfarfod yn chwarterol ac ar agor i unrhyw un sydd â diddordeb mewn Dadansoddi Data a gwella prosesau rhannu a defnyddio data’n gyson ar draws Cymru.

Pwrpas WDAIIN yw darparu arweinyddiaeth, goruchwyliaeth a chyfarwyddiaeth rhwng bob partner mewn perthynas â dadansoddi data. Darparu goruchwyliaeth er mwyn galluogi arloesedd a gwelliant a gefnogir gan ddata a gwaith dadansoddol ar draws Cymru gyfan, darparu cefnogaeth i waith partneriaeth lleol a fydd yn cefnogi cymunedau diogel, cryf a mwy hyderus. Mae gan y rhwydwaith ei raglen waith ei hun.

Cylch Gorchwyl WDAIIN

Mae WACSO yn cynnwys Swyddogion Diogelwch Cymunedol o’r 22 Awdurdod Lleol ar draws Cymru. Y Rheolwr Diogelwch Cymunedol o Gyngor Gaerdydd, sy’n aelod o Fwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru, yw’r Cadeirydd ar hyn o bryd.

Mae angen diweddaru’r Cylch Gorchwyl. Bydd fersiwn yn cael ei hychwanegu unwaith y bydd ar gael.

Rhwydwaith neu Grŵp o sefydliadau trydydd sector sydd ynghlwm â Diogelwch Cymunedol ar draws Cymru yw Cyfiawnder Cymunedol Cymru. Caiff ei gadeirio gan Brif Weithredwr Cymru Mwy Diogel.  Mae’r Cadeirydd yn aelod o Fwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru. Mae Cyfiawnder Cymunedol Cymru yn rhan o Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, er mwyn sicrhau llais a llwybr clir i’r trydydd sector ar gyfer dylanwadu ac ymgysylltu.

Os ydych chi am fod yn rhan o un o’r Rhwydweithiau Partner, e-bostiwch neu defnyddiwch y ffurflen gyswllt ar y wefan.