Neidio i'r prif gynnwys

Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel

Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel

Mae heddluoedd ledled Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i hyrwyddo a hysbysu’r cyhoedd i ‘Feddwl cyn rhannu’.

Mae’r neges hon yn arbennig o bwysig heddiw ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel gan ein bod i gyd yn cael ein hannog i godi ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth ein hunain o sut i gadw’n ddiogel ar-lein.

Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn cydnabod nad yw popeth rydyn ni’n ei ddarllen yn wir, bod pobl yn dweud celwydd am bwy ydyn nhw a’n bod ni’n codi ymwybyddiaeth o sut rydyn ni’n cadw ein hunain mor ddiogel â phosib.

Am ragor o wybodaeth ac arweiniad y gallwch ei ddarllen a’i rannu dilynwch y ddolen.