Neidio i'r prif gynnwys

Crynodeb o Gyfres Seminarau’r Gwanwyn / Haf 2024

Mae’r Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru wedi ymrwymo i rannu gwybodaeth ac arferion gorau gyda phob ymarferwr sy’n ymwneud â diogelwch cymunedol. Mae ein cyfres seminarau yn un o’r ffyrdd y gall ymarferwyr ymgysylltu a dysgu gan aelodau eraill o’r rhwydwaith. Yn ystod y gyfres hon, roedd yn bleser gennym groesawu dros 240 o gyfranogwyr a oedd wedi cofrestru i fynychu un o’n seminarau.

Dyma’r pedwar seminar a oedd yn rhan o’r gyfres hon:

Clywsom gan Carol Eland, Cynghorydd Allgymorth Rhanbarthol Cymru a ddarparodd drosolwg o’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yng nghyd-destun Cymru. Ni recordiwyd y seminar hwn, fodd bynnag, mae tîm y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cynnal digwyddiadau rheolaidd ac mae Carol yn hapus i unrhyw un gysylltu â hi i drafod unrhyw ymholiadau. 

Roedd y seminar atal hunanladdiad yn canolbwyntio ar ddarparu dealltwriaeth o waith y Rhaglen Genedlaethol Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio, a reolir o fewn Gweithrediaeth GIG Cymru. Recordiwyd y cyflwyniad ac mae adnoddau ar ddefnydd iaith i ymarferwyr eu defnyddio. 

Roedd ein seminar ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf gan heddluoedd Cymru yn ogystal ag astudiaeth achos Clirio, Cynnal, Adeiladu. Roedd ystâd Cae Fadre wedi bod yn fan problemus o ran Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ac roedd yn effeithio ar y gymuned leol. Trwy weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, yn cynnwys tai cymdeithasol, mae heddluoedd lleol wedi llwyddo i drawsnewid y gymuned a lleihau achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Cyflwynodd Leigh Parfitt, Arolygydd Plismona Lleol Heddlu De Cymru, y camau a gymerwyd i drawsnewid yr ymddygiad yn y gymuned hon.

Roedd ein seminar olaf yn y gyfres yn canolbwyntio ar Siapio Lle Lleol gyda Kaarina Ruta a Tim Peppin o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gan ganolbwyntio ar gludiant. Trafodwyd y ddeddfwriaeth 20mya ac effaith rhwystrau ar y briffordd. Cafwyd rhagolwg o fynd i’r afael â pheryglon parcio ar y palmant a’r Strategaeth Diogelwch Ffyrdd newydd. Mae seminar dilynol yn cael ei gynllunio i drafod cynllunio ac adfywio. Hoffem ddiolch i’n cyfranwyr ac i bawb a oedd yn bresennol yng Nghyfres Seminarau’r Gwanwyn / Haf. Hoffem glywed gennych chi os oes unrhyw bynciau yr hoffech i ni eu trafod mewn cyfres seminarau yn y dyfodol, neu os oes gennych chi astudiaeth achos arferion gorau yr hoffech ei rhannu gydag ymarferwyr eraill, cysylltwch â ni i rannu eich barn. Edrychwn ymlaen at rannu manylion am Gyfres yr Hydref yn fuan.